P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Daniel Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 655 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
cymunedau yng Nghymru yn parhau i golli asedau cymunedol fel tafarndai a
meysydd chwaraeon ar gyfradd frawychus. Yn wahanol i Loegr a’r Alban, nid oes
gan gymunedau yng Nghymru hawl statudol i wneud cais i brynu asedau o’r fath.
Mae
arnom angen deddfwriaeth newydd ynghylch asedau o werth cymunedol yn benodol.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i weithredu ar unwaith y
darpariaethau yn Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 i sicrhau bod gan
grwpiau yng Nghymru yr hawl gyfreithiol i brynu a rheoli asedau cymunedol.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
asedau cymunedol yn adeiladu cyfalaf cymdeithasol, iechyd a llesiant. Mae colli
asedau cymunedol yn arwain at gymunedau gwannach, cymunedau llai cysylltiedig a
chymunedau llai hapus.
Rhoddodd
Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yr hawl gyfreithiol i grwpiau
cymunedol wneud cais am asedau o werth cymunedol sydd o dan fygythiad neu sydd
ar fin cael eu gwerthu, gan roi’r hawl iddynt redeg yr asedau hyn hefyd. Mae’r
Ddeddf hefyd yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw rhestr o asedau
cymunedol o’r fath. Yn yr Alban, grwpiau cymunedol sydd â’r cyfle cyntaf i
brynu’r asedau hyn. (https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn06366/).
Fodd
bynnag, yng Nghymru, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â chymhwyso’r
rhannau perthnasol o’r Ddeddf a fyddai’n caniatáu hyn. Mae ein cymunedau,
felly, o dan anfantais enfawr o’u cymharu â chymunedau yn Lloegr a’r Alban.
Yn
2015, dywedodd y Gweinidog perthnasol y byddai camau’n cael eu cymryd ynghylch
asedau o werth cymunedol gan Lywodraeth Cymru rhwng 2016-21, ond ni ddigwyddodd
unrhyw beth.
Byddai
gweithredu’r darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf Lleoliaeth o fudd enfawr i
gymunedau yng Nghymru sy’n ysu i achub asedau cymunedol gwerthfawr.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/06/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. O ystyried y gwaith manwl
a wnaed gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y maes hwn, cytunodd yr
Aelodau nad oedd llawer mwy y gellid ei gyflawni drwy'r Pwyllgor Deisebau.
Roedd yr Aelodau’n awyddus i longyfarch y deisebydd am yr ymgyrch lwyddiannus a
arweiniodd at ddeddfwriaeth yn cael ei hystyried. Bydd y Pwyllgor yn rhannu
adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ac ymateb Llywodraeth Cymru â’r
deisebydd ac yn cau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
09/02/2021
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2021