Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS.

 

(13.30 - 14.30)

2.

Rhaglen codau cyfraith Cymru a chynigion o ran hygyrchedd cyfraith Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Claire Fife, Cynghorydd Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol

Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â rhaglen codau cyfraith Cymru a chynigion o ran hygyrchedd cyfraith Cymru.

 

14.30 - 14.35

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)086 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

5 munud

4.

Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin a Dadansoddiad o Fframweithiau 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ddatganiad Llywodraeth Cymru ac adroddiad Llywodraeth y DU.

 

14.40 - 14.45

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfarfod Gweinidogol pedairochrog ar Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: SL(6)072 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

5.3

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at yr holl Aelodau o’r Senedd.

 

5.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i'w adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).

 

5.5

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

14.45

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

14.45 - 14.55

7.

Rhaglen codau cyfraith Cymru a chynigion o ran hygyrchedd cyfraith Cymru: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a thrafododd sut y byddai'r dystiolaeth hon yn llywio’r broses o gynllunio gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

14.55 - 15.05

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) – trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), a chytunodd arno, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.05 - 15.15

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau – Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau. Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

 

15.15 - 15.25

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a’r prif bwyntiau y dylid eu cynnwys yn ei adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

15.25 - 15.35

11.

Nodyn briffio ar gytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

 

·         Y Sefydliad Llafur Rhyngwladol: Confensiwn Trais ac Aflonyddu 2019 (Rhif 190);

·         Y Confensiwn Rhyngwladol ar gyfer Rheoli Dŵr Balast a Gwaddod Llongau;

 

a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog mewn perthynas â Chonfensiwn y DU/Swistir ar gydlynu nawdd cymdeithasol, a chytunodd i dynnu’r llythyr hwnnw at sylw'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.