Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. |
|
(13.30 - 14.30) |
Rhaglen codau cyfraith Cymru a chynigion o ran hygyrchedd cyfraith Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Mick Antoniw AS,
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Claire Fife,
Cynghorydd Polisi i'r Cwnsler Cyffredinol Dylan Hughes, y
Prif Gwnsler Deddfwriaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â rhaglen codau cyfraith Cymru a
chynigion o ran hygyrchedd cyfraith Cymru. |
|
14.30 - 14.35 |
Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)086 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
5 munud |
Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin a Dadansoddiad o Fframweithiau 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ddatganiad Llywodraeth Cymru ac
adroddiad Llywodraeth y DU. |
|
14.40 - 14.45 |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfarfod Gweinidogol pedairochrog ar Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: SL(6)072 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol at yr holl Aelodau o’r Senedd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i'w adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). |
||
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. |
||
14.45 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
14.45 - 14.55 |
Rhaglen codau cyfraith Cymru a chynigion o ran hygyrchedd cyfraith Cymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei
sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a thrafododd sut
y byddai'r dystiolaeth hon yn llywio’r broses o gynllunio gwaith y Pwyllgor yn
y dyfodol. |
|
14.55 - 15.05 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) – trafod yr adroddiad drafft. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent
Tir), a chytunodd arno, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y
byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol. |
|
15.05 - 15.15 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau – Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Adeiladau.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf. |
|
15.15 - 15.25 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a’r
prif bwyntiau y dylid eu cynnwys yn ei adroddiad. Cytunodd y Pwyllgor i drafod
ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf. |
|
15.25 - 15.35 |
Nodyn briffio ar gytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: ·
Y Sefydliad Llafur Rhyngwladol: Confensiwn
Trais ac Aflonyddu 2019 (Rhif 190); ·
Y Confensiwn Rhyngwladol ar gyfer
Rheoli Dŵr Balast a Gwaddod Llongau; a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau
yn ystod y cyfarfod nesaf. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog
mewn perthynas â Chonfensiwn y DU/Swistir ar gydlynu nawdd cymdeithasol, a
chytunodd i dynnu’r llythyr hwnnw at sylw'r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. |