Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 556KB) Gweld
fel HTML (235KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
||
Deisebau newydd |
||
P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebwyr cyn trafod y camau nesaf i'w cymryd mewn perthynas â'r ddeiseb. |
||
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn
y cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebwyr. |
||
P-05-752 Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb
gan y deisebydd cyn penderfynu ar y camau nesaf i'w cymryd mewn perthynas â'r
ddeiseb. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-05-712 Byddai Adran Llywodraeth Cymru o fewn Ewrop yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru mewn trafodaethau parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon
sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Prif Weinidog a gofyn am atebion i'r
cwestiynau a ofynnwyd. |
||
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb a rhoi gwybodaeth bellach i'r deisebydd o ran sut y gallai fynegi ei
bryderon ynghylch yr ystyriaeth a roed eisoes i'r ddeiseb. |
||
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i:
|
||
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn am ei sylwadau ar
yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor Iechyd Cymunedol a'r Pwyllgor Meddygol
Lleol, ynghyd â: o
Nodi'r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol ynghylch gwasanaethau i'w cynnig
gan y ganolfan iechyd newydd yn Blaenau o haf 2017; o
Gofyn a yw'r Bwrdd Iechyd yn ystyried y bydd y Ganolfan yn cynnig y lefel o
ofal lleol a ragwelir gan Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid yn 2012; o
Gofyn sut yr eir i'r afael â'r diffyg parhaus canfyddedig o welyau cleifion
a'r anhawster recriwtio meddygon teulu yn yr ardal; o
Ei safbwynt o ran y diffyg cartrefi nyrsio cofrestredig yn yr ardal neu
gartrefi gofal sy'n gallu darparu gofal ar raddfa lai. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a
gofynna fyddai'n helpu gydag unrhyw beth o'u gwaith cyfredol. |
||
P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb o ystyried i'r prif elfen - sef adolygu'r 'rheol eithriadol' - gael ei
ddiwallu. |
||
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunwyd i ofyn am sylwadau’r deisebydd ar yr ohebiaeth ddiweddar cyn cytuno
ar y camau nesaf i'w cymryd. |
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunwyd i ysgrifennu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig i ofyn am ragor o fanylion am y cynnig i gyfyngu ar y gwaith datblygiad
glo newydd sydd wrthi'n cael ei ystyried i ymgynghori arno fel rhan o'r
adolygiad o Bolisïau Cynllunio yng Nghymru y llynedd. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunwyd i ysgrifennu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig i ofyn am ragor o fanylion am y cynnig i gyfyngu ar y gwaith datblygiad
glo newydd sydd wrthi'n cael ei ystyried i ymgynghori arno fel rhan o'r
adolygiad o Bolisïau Cynllunio yng Nghymru y llynedd. |
||
P-05-705 Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau Cynllunio yn Rhoi Sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Cymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol Lleol, neu i’r Posibilrwydd y bydd y Grwpiau a'r Sefydliadau hyn yn cau. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb ar y sail nad yw'r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth sy'n fater digon
arwyddocaol yn ogystal â diffyg cysylltiad â'r deisebydd. |
||
P-05-741 Mae angen cyfyngiadau llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb ar y sail bod: ·
Adnoddau Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod barn tirfeddianwyr a meddianwyr,
yn ogystal ag ystyriaethau economaidd ehangach, yn cael eu hystyried wrth
benderfynu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig; ·
Nid yw'r Pwyllgor yn gallu ymyrryd yn y sefyllfa benodol
dan sylw gyda'r tir wedi'i feddiannu gan y deisebydd. |
||
P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig i ofyn y cwestiynau penodol a gynigiwyd gan y deisebydd. |
||
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, gan gynnwys sylwadau diweddaraf y
deisebydd, a gofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn barod i gwrdd â'r deisebwyr
i drafod eu sylwadau a chynnig cefnogaeth mewn rhagor o fanylder. |
||
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ddarparu'r
rhagor o dystiolaeth a dderbyniwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a gofyn
am ragor o fanylion am yr amserlen ar gyfer yr adolygiad arfaethedig a
dadansoddiad annibynnol o hysbysiadau cosb benodedig. |
||
P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn: ·
cau'r ddeiseb gan fod hyn yn fater o gyfrifoldeb i ysgolion unigol ac nid
oes tystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad gan y Pwyllgor Deisebau;
a ·
diolch i'r deisebydd am i ymgysylltiad â'r broses ddeisebau a dymuno'r
gorau iddo yn y dyfodol. |
||
P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cynnwys y sylwadau a dderbyniwyd gan
y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, a gofyn a yw'n fwriad gan Lywodraeth
Cymru i gynnwys awtistiaeth fel gofyniad yn y rhaglen newydd ar gyfer Addysg
Gychwynnol Athrawon o 2019. |
||
P-05-735 Gwneud y cyfnod sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y deisebydd i ofyn am ei sylwadau ar yr ymateb a dderbyniwyd gan Lywodraeth
Cymru. |
||
P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at y deisebwyr i rannu cynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo
asedau i'r gofeb ·
chau'r ddeiseb. |
||
P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn: ·
anfon sylwadau diweddaraf y deisebydd ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a’r Seilwaith; a ·
ystyried cau'r ddeiseb y tro nesaf y caiff ei hystyried. |
||
P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at: ·
Trenau Arriva Cymru i rannu pryderon y deisebydd a gofyn a fyddent yn
ystyried gwneud newidiadau i'r trefniadau diogelwch ar y platfform yng ngorsaf
Treorci, gan gynnwys maint y lloc ar gyfer disgyblion; ac ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i roi gwybod iddo am
sylwadau'r deisebydd mewn perthynas â diogelwch disgyblion ar y platfform yng
ngorsaf Treorci. |
||
P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang Ffibr Opteg yn y Pentref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
ynghylch yr amserlen debygol ar gyfer cynnig band eang ffibr opteg i adeiladau
yn Hirwaun a Phenderyn. |
||
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ddisgwyl am
ganlyniad yr Adolygiad Terfyn Cyflymder sydd i gychwyn yn haf 2017. |
||
P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn a wnaiff ystyried
adolygu'r meini prawf ar gyfer pellter trafnidiaeth rhwng cartref ac ysgol, neu
fesurau gwahanol i wella diogelwch myfyrwyr wrth deithio i'r ysgol. |
||
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu at y Llywydd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
am unrhyw gamau a gymerwyd i wneud y sylw a roddir i drafodion y Cynulliad yn
fwy hygyrch i bobl fyddar ers yr ohebiaeth flaenorol a dderbyniwyd gan ei
rhagflaenydd ym mis Mai 2014; ac ·
rhoi gwybod i'r deisebydd na ally Pwyllgor fynd i'r afael â materion sy'n
ymwneud â hygyrchedd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar ac y
dylid codi'r mater gyda'r grŵp ei hun. |
||
P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am ei ymateb
i'r sylwadau pellach a wnaed gan y deisebydd. |
||
Peidiwch â gadael i Forsythia gau! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at: ·
y Prif Gorff Cyflenwi Cymunedau yn Gyntaf sy'n gyfrifol
am Ganolfan Ieuenctid Forsythia i ofyn am wybodaeth ynghylch y cymorth a fydd
ar gael yn y dyfodol ar gyfer y grŵp, o ystyried llwyddiant ymddangosiadol
y gwaith a wnaed; ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, er mwyn rhannu'r fideo a'r
wybodaeth a dderbyniwyd gan Ganolfan Ieuenctid Forsythia, a mynegi pryder
ynghylch effaith a allai colli prosiectau llwyddiannus fel hyn ei chael ar
ardaloedd lleol; ·
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn a oes llwybr i gefnogi prosiectau
megis Canolfan Ieuenctid Forsythia drwy waith ieuenctid; ·
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i rannu'r fideo a'r wybodaeth a
dderbyniwyd gan Ganolfan Ieuenctid Forsythia a gofyn am eu sylwadau; a ·
Canolfan Ieuenctid Forsythia i ddiolch iddynt am ddarparu'r fideo i'r
Aelodau yn mynegi eu pryderon ac am fod yn yr oriel gyhoeddus ar gyfer y
cyfarfod. |
||
P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi
mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf. |
||
P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi
mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf. |
||
(10.15 - 10.50) |
Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt Ken
Skates AM - Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure Rhodri
Griffiths – Deputy Director, Transport Policy, Planning & Partnerships Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu
i Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. a Rhodri
Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth
ateb cwestiynau gan y Pwyllgor |