P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach
P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cai Ellerton ar ôl casglu 16 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rwyf yn ysgrifennu i ofyn ichi
ystyried fy neiseb. Fel mae rhieni,
athrawon a myfyrwyr/disgyblion yn gwybod, mae ysgolion cynradd yn dechrau am
08:45 ac mae ysgolion uwchradd yn dechrau am 08:30. Hoffwn i ysgolion ddechrau
awr yn hwyrach yn y bore, sy'n golygu y byddai ysgolion cynradd yn dechrau am
09:45 ac ysgolion uwchradd yn dechrau am am 09:30.
Mae prawf yn Lloegr wedi dangos
bod myfyrwyr yn sicrhau gwell canlyniadau arholiad os yw ysgol yn dechrau awr
yn hwyrach.
Diolch ichi am ystyried y cais
hwn.
Cai Ellerton, 13.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch
y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn cau'r ddeiseb gan fod hyn yn fater o
gyfrifoldeb i ysgolion unigol ac nid oes tystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd i
gefnogi argymhelliad gan y Pwyllgor Deisebau; a diolch i'r deisebydd am i
ymgysylltiad â'r broses ddeisebau a dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Bro Morgannwg
·
Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2016