P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru
P-05-716 Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elin Tuckwood ar ôl casglu
637 llofnod ar wefan e- ddeiseb amgen.
Geiriad
y ddeiseb
Yma yn y DU mae gennym hawl i addysg am ddim, felly oni
ddylem gael cludiant diogel, am ddim yn ôl ac ymlaen i'r ysgol? Yr ateb i hyn
yw 'dylem'. Am nifer o flynyddoedd mae Trenau Arriva Cymru wedi bod yn darparu
cludiant am ddim ar y trenau i ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci, ac mae hyn yn
fantais enfawr i'r rhai sy'n byw y tu allan i'r dalgylch. Fodd bynnag, mae hyn
wedi newid yn ddiweddar ac maent bellach wedi galw ar bob disgybl i brynu tocyn
trên i fynd yn ôl ac ymlaen i'r ysgol ac mae prisiau'r rhain yn amrywio rhwng
£19.95 a £32.90 fesul tymor ysgol. Gall hyn fod yn gostus iawn i rai rhieni
sydd â mwy nag 1 plentyn, ac nid yw'r ysgol yn gallu helpu rhieni gyda'r arian
hwn oherwydd bod y tocynnau yn cael eu darparu drwy gwmni Trenau Arriva Cymru.
Mae Trenau Arriva wedi dweud mai diogelwch yw'r rheswm am hyn, ond mae'r plant
sydd â'r tocynnau trên dynodedig o flaen rhwystr metal "amddiffynnol"
yn agosach at ymyl y platfform, a'r plant nad oes ganddynt docynnau yn y man
caeedig bach o fewn y rhwystr hwn, gan achosi mwy o berygl mewn gwirionedd
oherwydd bod lle mor fach yn orlawn. Trwy gael cludiant am ddim ar y trenau
unwaith eto bydd pob disgybl yn gallu cael cyfle teg i gael addysg a bydd yn
gallu mynd ymlaen i wneud yr hyn y mae'n dymuno'i gyflawni mewn bywyd. Byddwn i
gyd yn cael ein trin yn gyfartal ac ni fydd arian yn bryder mawr i neb.
Trosglwyddo deiseb tu allan i’r
Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/05/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Rhondda
·
Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2016