P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Gymdeithas Cadwraeth Forol ar ôl casglu 1,993 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Mae'r Gymdeithas
Cadwraeth Forol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i weithredu er mwyn i Gymru gyfrannu’n gadarnhaol at y nod byd-eang yn
Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i adeiladu ar y
canlyniadau rhagorol a gafwyd drwy godi tâl ar fagiau plastig, drwy weithredu
dau gam arall a fyddai'n helpu Cymru i gyrraedd economi diwastraff, cylchol.
Hynny yw:
- Cyflwyno
system dychwelyd ernes yng Nghymru ar gyfer pob cynhwysydd diod untro, fel
poteli gwydr a phlastig a chaniau alwminiwm.
- Deddfu
er mwyn codi tâl ar yr holl gynwysyddion bwyd a diodydd cyflym a'r offer
sy'n gysylltiedig â hwy nad oes modd eu compostio’n llawn, oni bai ei bod
yn bosibl eu hailddefnyddio, eu hail-lenwi, eu cynnwys mewn cynllun
dychwelyd neu eu casglu i'w hailgylchu mewn siopau.
Mae systemau dychwelyd ernes
eisoes ar waith mewn mwy na 40 o wledydd ledled y byd a phrofwyd bod y rhain yn
lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu drwy greu cyflenwad mwy
dibynadwy o ddeunyddiau o ansawdd da, yn lleihau costau ar gyfer awdurdodau
lleol ac yn creu swyddi.
Mae papurau lapio bwyd cyflym a
chwpanau untro yn eitemau sbwriel cyffredin ar ein strydoedd a bydd sicrhau bod
modd eu hail-lenwi/eu hailddefnyddio, a'i bod yn hawdd eu hailgylchu neu eu
compostio, yn lleihau sbwriel.
Mae'r gwaith o gynhyrchu
cynwysyddion diodydd newydd yn ogystal â chynwysyddion bwyd cyflym a chwpanau
newydd yn defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ
gwydr. Po fwyaf yr ydym yn ailgylchu, a pho leiaf o ysbwriel yr ydym yn ei
ollwng, gorau oll ar gyfer ein hamgylchedd a'n heconomi.
Cynhwysydd bwyd cyflym
Statws
Mae'r
ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor
Deisebau ar hyn o bryd.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/05/2017.
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/04/2017