P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol
P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Ryan Dansie, ar ôl casglu 17 llofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Oherwydd y pwysau
cynyddol ar gyllidebau, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystyried creu
ymddiriedolaethau elusennol i gymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau
cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.
Y brif fantais o drefniant o'r
fath yw'r rhyddhad ardrethi y byddai gan elusen hawl i'w gael. Mae hyn gyfystyr
â symud arian o'r gronfa ganolog o ardrethi annomestig ac i gyllideb yr
awdurdodau. Nid oes unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei arbed yn gyffredinol, er
bod gorbenion sy'n gysylltiedig â sefydlu trefniadau o'r fath a all gynnwys
gwneud taliadau i ymgynghorwyr preifat arbenigol.
Mae Cyngor Sir Penfro ar fin
dechrau'r broses o greu elusen i gymryd drosodd y gwaith o redeg yr holl
wasanaethau hamdden a diwylliannol yn y sir gyfan. Mae bron yn anochel y bydd
awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn gwneud yr un peth er mwyn ymdrin â'r
pwysau amhosibl ar eu cyllidebau eu hunain.
Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru
i newid y rheolau rhyddhad ardrethi fel bod yr holl gyfleusterau hamdden a
diwylliannol a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn yr
un modd ag elusen. Os na chaiff hyn ei wneud, collir yr incwm ardrethi busnes
hwn o hyd drwy greu'r ymddiriedolaethau elusennol hyn, ond byddwn yn colli
rheolaeth ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiangen yn y broses.
Dylid cael gwared ar y
cymhelliant diangen hwn i allanoli ein gwasanaethau hamdden a diwylliannol
pwysig. Er nad oes unrhyw ddata ar gael ar hyn o bryd, gellir damcaniaethu y
byddai'r gymhareb cost a budd ariannol a fyddai'n deillio o'r buddsoddiad hwn
mewn seilwaith yn y rhanbarth yn gadarnhaol, ac rydym yn gobeithio y bydd y
Llywodraeth o leiaf yn ystyried y cynnig hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/10/2017
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar
y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi ymateb i
bryderon y deisebwyr, a’i bod hi’n anodd cymryd camau pellach yn sgil diffyg
cysylltiad â’r deisebydd.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/12/2016.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2016