P-05-742 Peidiwch â Gadael i Forsythia Gau!

P-05-742 Peidiwch â Gadael i Forsythia Gau!

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Forsythia Youth Centre ar ôl casglu 74 llofnod.  Mae'r ddeiseb wedi casglu 533 o lofnodion ar wefan e- ddeiseb arall.

 

Geiriad y ddeiseb

Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia mewn perygl o gael ei chau oherwydd ansicrwydd ynghylch ei threfniadau cyllido gan raglen Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf. Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia yn gwasanaethu pobl ifanc yn rhad ac am ddim, ac mae ar agor:

  • 4 noson yr wythnos am 51 wythnos y flwyddyn;
  • Yn ystod y dydd a'r nosweithiau drwy gydol gwyliau'r ysgol;
  • Yn ystod y penwythnos os oes gwaith prosiect i'w gwblhau.

 

Mae gan Forsythia o leiaf 50 o bobl ifanc rhwng 11-20 oed yn bresennol bob nos yn ddi-ffael, a'r rheini o ardaloedd Y Gurnos, Galon Uchaf, Pant, Dowlais a Phen-y-Darren. Heblaw am Ganolfan Ieuenctid Forsythia, ni fyddai gan bobl ifanc le diogel i fynd iddo o fewn eu cymuned, ac ni fyddai ganddynt yr unman arall i fynd iddo oherwydd nad oes digon o ddarpariaeth i bobl ifanc.

Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid megis 'Commit to quit' gydag Ash Cymru, prosiectau Erasmus+ ar 'Agweddau a Gwerthoedd Gwaith Ieuenctid', a'r 'prosiect Agenda' mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.

Mae cyfle i'r bobl ifanc hefyd ddefnyddio sefydliadau megis Drug Aid Cymru a chymryd rhan mewn prosiectau Iechyd Rhywiol, rhaglenni Rhoi'r Gorau i Ysmygu, rhaglenni i gynyddu hyder a gwella iechyd meddwl, cânt ennill sgiliau a chymwysterau, a derbyn cymorth mewnol gan gan weithwyr ieuenctid cymwys.

Mae'r bobl ifanc a'r gweithwyr yn pryderu'n fawr am yr ansicrwydd ynghylch trefniadau cyllido Cymunedau yn Gyntaf oherwydd heb y cyllid hwn, bydd yn rhaid i Forsythia gau.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud i raglen Cymunedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid Forsythia rhag cael ei gau.

 

Gwybodaeth ychwanegol

1. Mae'r bobl ifanc sydd wedi bod ynghlwm â Chanolfan Ieuenctid Forsythia wedi bod yn rhan o ymgyrch i wella diogelwch yn y gymuned, gan lwyddo i gael croesfan sebra wedi'i gosod y tu allan i'r Ganolfan Ieuenctid, goleuadau wedi'u gosod ar heolydd ger yr ysbyty, a chau'r hen danlwybr peryglus a oedd yn llawn o offer a ddefnyddir i gymryd cyffuriau.

 

2. Mae'r bobl ifanc yn mynd i ysgolion lleol ac i Goleg Merthyr Tudful i roi addysg ar roi'r gorau i ysmygu.

 

3. Cydweithiodd pobl ifanc Forsythia â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mhedwerydd tymor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gymryd rhan mewn cyfarfod grŵp ffocws gydag aelodau o'r Pwyllgor i drafod yr ymchwiliad newydd i Sylweddau Seicoweithredol.

 

4. Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia wedi ennill 18 o wobrwyon dros y 13 blynedd ddiwethaf yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

 

5. Mae pobl ifanc Forsythia wedi casglu 533 o lofnodion gan ddefnyddio change.org i hybu'r ddeiseb.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/03/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Merthyr Tudful a Rhymni
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2017