P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu gwasanaeth isdeitlo ac iaith
arwyddion pan fydd dadleuon a thrafodion y Cynulliad yn cael eu darlledu ar y
teledu, er mwyn i’r 300,000 o bobl sydd â byddardod a nam ar y clyw yng Nghymru
ddilyn y broses ddemocrataidd fel pobl eraill.
Prif ddeisebydd: Mervyn James
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014
Nifer y llofnodion: 25
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2014