P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio
P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Eleanor Price, ar
ôl casglu 12 o lofnodion.
Testun
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i sefydlu rhagor o raglenni addysgol (yn benodol mewn
Ysgolion Uwchradd) i leddfu camddealltwriaeth llawer o bobl o beth yw
hunan-niweidio.
Mae hwn yn fater cynyddol ymysg pobl ifanc yng
Nghymru ac, yn ôl arolwg gan y BBC, mae 43% o bobl yn adnabod rhywun sydd wedi
hunan-niweidio. Yn yr un arolwg, cofnodwyd bod 41% o bobl yn credu bod
hunan-niweidio yn weithred hunanol
Gwybodaeth
ychwanegol:
Oherwydd nifer digamsyniol yr achosion o
hunan-niweidio ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru, credaf y dylid
hybu ymwybyddiaeth a hygyrchedd am y pwnc. Pam y dylai person ifanc ddioddef yn
dawel? Dyna pam yr wyf yn credu y dylem ni, fel gwlad, ddarparu deunyddiau mwy
sylweddol i ddioddefwr allu cael cymorth am ddim i frwydro yn erbyn
hunan-niweidio.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cyfnod o amser a oedd wedi
mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 17/06/2014.
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014