P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus

P-05-712 Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tegid Roberts, ar ôl casglu 22 llofnod ar lein

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Adran Ewrop fel mater o frys, â'r dasg o ddeall a datblygu strategaeth ar gyfer ymgysylltiad parhaus Cymru â'r UE a'n perthynas â phartneriaid yn Ewrop yn y dyfodol.

Ers y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymateb

Llywodraeth y DU wedi bod yn araf ac yn amwys - cafodd uned o fewn swyddfa'r Cabinet ar gyfer gadael yr UE ei gynnig yn wreiddiol ac yna'i ddisodli gan swydd newydd, sef Gweinidog dros adael yr UE, rôl sy'n ymddangos i fod â diffyg amcanion clir, ac sy'n cael ei arwain gan AS sydd wedi treulio'r 20 mlynedd diwethaf ar y meinciau cefn.

Yng Nghymru, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel a dweud y lleiaf, ac mae'n bryd nawr bod Cymru ei hun yn cymryd camau fel bod y trafodaethau rhwng y DU a gweddill yr UE yn esmwyth a bod gan Gymru - buddiolwr net o aelodaeth â'r UE - rôl bendant wrth lunio ein perthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Lloegr a'r Alban yn dominyddu'r holl drafodaethau gyda'r UE ehangach. Heb gynllun gweithredu strategol penodol gan Lywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa hon yn debygol o barhau.

Dylai fod gan yr Adran hon Ysgrifennydd  Cabinet cryf sydd â phrofiad o weithio yn Ewrop ac sy'n gallu gweithio ar draws yr holl adrannau. Dylai'r Ysgrifennydd gael cefnogaeth gan bwyllgor trawsbleidiol i graffu ar bob maes ymgysylltu presennol ac i helpu i lunio ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Dylai'r pwyllgor hwnnw, yn ei dro, gael cyngor gan grŵp o gynghorwyr arbenigol allanol o'r sectorau cyfreithiol, economaidd, busnes, amaethyddol, diwylliannol ac academaidd.

Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru yn y trafodaethau parhaus. Rydym hefyd angen llais cryf yn Ewrop ar ôl gadael yr UE i sicrhau ein bod yn parhau i elwa a chyfrannu at y meysydd yr ydym eisoes yn cymryd rhan ynddynt ac yn datblygu perthynas gyda'r UE yn y sectorau nad ydym yn hyn o bryd yn ymwneud yn llawn â hwy.

 

Arwydd Llywodraeth Cymru ar ochor adeilad

Arwydd Llywodraeth Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/09/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod trefniadaeth Llywodraeth Cymru yn fater i'r Prif Weinidog a chan fod gwybodaeth yn cael ei darparu'n rheolaidd yn ystod trafodion eraill y Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r broses o adael yr UE.  Wrth wneud hynny, ystyriodd yr Aelodau sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu cyhoeddi, a oedd yn cydnabod, yn ôl pob golwg, nad oedd hi'n werth parhau â'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/10/2016

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2016