Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Abigail Phillips 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.10

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

09.10-09.15

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y Gweinidog a gohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl i’r alwad am dystiolaeth ddod i ben.

2.2

P-04-340 Creu ardal fenter yng Nghasnewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Aelodau Etholaeth a’r Aelodau Rhanbarthol perthnasol ystyried codi’r mater yn y Cyfarfod Llawn.

 

Y Clerc i roi manylion i’r Pwyllgor ynghylch ymateb y Gweinidog i’r pwynt a godwyd yn ddiweddar gan Eluned Parrott ar y mater hwn yn y Cyfarfod Llawn.

 

09.15-09.45

3.

P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx - sesiwn tystiolaeth lafar

Mike Clark – Aelod o Fwrdd Theatr Hijinx

Val Hill  - Cyfarwyddwr Gweinyddol, Theatr Hijinx

Gaynor Lougher - Cyfarwyddw Celfyddydol, Theatr Hijinx

Rhodri Glyn Thomas AC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad ar y mater gan y deisebwyr,gyda chymorth Rhodri Glyn Thomas AC, ac atebwyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

09.45-10.15

4.

P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau - sesiwn tystiolaeth lafar

Graham Warlow – Prif Deisebydd

Steve Matthews – Yr Undeb PCS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad ar y mater gan y deisebwyr, ac atebwyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

10.15-10.30

5.

Trafod y dystiolaeth lafar

5.1

P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ofyn i grŵp gorchwyl a gorffen gael ei sefydlu i adolygu’r gwaith o weithredu argymhellion yr Adroddiad ar Hygyrchedd Gweithgareddau Celfyddydol a Diwylliannol yng Nghymru a dderbyniwyd gan y Gweinidog;

ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gyfle cyfartal, gan geisio’i barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb;

ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i holi sut y bydd yn penderfynu ar y blaenoriaethau a bennir mewn llythyrau cylch gwaith yn y dyfodol at Gyngor Celfyddydau Cymru ac a fyddai modd i Aelodau gyfrannu iddo.

 

5.2

P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

ysgrifennu at weithredwyr a chyrff twristiaeth yn y Gŵyr ac Eryri a’r pedwar Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol ar y mater hwn;

 

ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a fyddai’r Llywodraeth yn fodlon cynnal asesiad risg o ddiogelwch twristiaid mewn ardaloedd arfordirol yng nghyd-destun cynigion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer dyfodol gorsafoedd gwylwyr y glannau yng Nghymru;

 

cynhyrchu adroddiad dros dro ar y pwnc, gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater;

 

ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn sut y penderfynwyd ar y cynigion sy’n ymwneud â Chymru gan nodi pryder ynghylch effaith bosibl hyn ar ddiogelwch twristiaid yng Nghymru;

 

ysgrifennu at Gymdeithas Twristiaeth Sir Benfro a sefydliadau twristiaeth y gogledd, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain, a Pharciau Cenedlaethol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb.

 

10.30-11.00

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

6.1

P-03-288 Strategaeth Genedlaethol ar Fyw’n Annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

6.2

P-03-308 Achub Theatr Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn i’r mater hwn gael ei gynnwys yn ei flaenraglen waith i’w ystyried yn y dyfodol.

6.3

P-03-311 Theatr Spectacle

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn i’r mater hwn gael ei gynnwys yn ei flaenraglen waith i’w ystyried yn y dyfodol.

6.4

P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gofyn i’r mater hwn gael ei gynnwys yn ei flaenraglen waith i’w ystyried yn y dyfodol.

6.5

P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â’r deisebau hyn.

6.6

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â’r deisebau hyn.

6.7

P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ond i ofyn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau barhau i adolygu’r sefyllfa.

6.8

P-03-310 Polisïau sy’n helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);

cau’r ddeiseb ond hysbysu’r deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’i phryderon.

 

6.9

P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);

Cau’r ddeiseb ond hysbysu’r deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’i phryderon.

 

6.10

P-03-153 Celf Corff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

6.11

P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebydd gan egluro y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ystyried y mater hwn ac yna’n cau’r ddeiseb.

6.12

P-03-318 Gwasanaethau Mamolaeth Trawsffiniol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yr Amwythig a Telford ar y mater hwn, ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ei hannog i wneud cyflwyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr mewn perthynas â’r mater.

 

7.

Papurau i'w nodi

7.1

P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau hyn.

7.2

P-03-302 Ffatri Prosesu Compost

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau hyn.

Trawsgrifiad