P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad
annibynnol i orfodi safonau lles anifeiliaid yn y diwydiant ffermio cŵn bach yn ne-orllewin Cymru.
Ceir yr ymyrraeth
a’r ymchwiliad annibynnol hyn o ganlyniad i’r atgasedd eang sy’n bodoli
oherwydd ei bod mor rhwydd cael trwydded i ffermio cŵn bach ac yn sgil diffyg gorfodi safonau
lles. Mae’r
atgasedd hwn yn creu delwedd negyddol iawn o Gymru ledled Cymru, y Deyrnas Unedig
ac yn rhyngwladol.Yn ein barn ni, sefydlu ymchwiliad annibynnol yw’r unig
ffordd ymlaen, a bydd hyn yn gam bach tuag at adfer enw da Cymru ledled y
Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Gobeithiwn y bydd yr ymchwiliad hefyd yn
cwtogi ar weithgareddau ffiaidd y ffermydd cŵn bach didrwydded.
Prif ddeisebydd:
Colin Richardson
Nifer y deisebwyr:
3753
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014
Y Broses Ymgynghori
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion
gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar
ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau
ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r
Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor
ar ein gwefan
fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth
mewn fformat sain neu fideo.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau
yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u
polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at
deisebau@cymru.gov.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai’r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Iau, 6 Rhagfyr 2011. Efallai na
fydd yn bosibl
ystyried yr ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad
hwn.
Gwelwch y llythyr ymgynghori isod am fwy o wybodaeth.
Dogfennau