Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Datganodd Joel
James ei fod yn aelod o BASC, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, a allai
fod yn berthnasol i dair deiseb yn ystod y cyfarfod. |
|
Cafodd y sesiwn dystiolaeth ar gyfer P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg ei gohirio tan 7 Mawrth Aled Roberts, Comisiynydd
y Gymraeg. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gohiriwyd y
sesiwn dystiolaeth tan 7 Mawrth. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1231 Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod Llywodraeth Cymru yn ystyried mentrau seilwaith gwyrdd yn flaenoriaeth ac y
dylai Asesiadau Seilwaith Gwyrdd Awdurdodau Lleol ysgogi’r camau nesaf yn
lleol. Felly, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1234 Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau’r Cymoedd i 50 mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y bu’r ffordd yn destun gwaith craffu helaeth, gan gynnwys ymchwiliad
cyhoeddus, a’i bod wedi’i dylunio a’i hadeiladu i weithredu gyda therfyn
cyflymder uchaf o 50mya. Gan ei bod bellach ar agor, dylai’r ffordd ddeuol fod
yn fwy diogel na’r hen ffordd sengl tair lôn, felly cytunodd y Pwyllgor i
ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1239 Canslo Arholiadau TGAU yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y bu’r Llywodraeth yn glir ei bod yn bwriadu i arholiadau fynd yn eu blaen
eleni, ond mae trefniadau wrth gefn os nad yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn
golygu bod modd i’r arholiadau fynd yn eu blaen. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y
straen y mae pobl ifanc yn ei wynebu yn ystod y cyfnod hwn, ond dywedodd ei bod
yn anodd gweld pa gamau pellach y gall eu cymryd ynghylch y ddeiseb. Cytunodd i
ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Cyfarfu â’r
deisebydd mewn digwyddiad bwrdd crwn yn 2021. Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylw Cadeirydd y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb, a gweld a fydd lle yn y
dyfodol i'r deisebydd gymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliadau neu sesiynau casglu
tystiolaeth ar y mater. |
|
P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i:
|
|
P-06-1244 Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Pan ddaw’r ymateb
gan y bwrdd iechyd i law, bydd y Pwyllgor yn ei anfon ymlaen at y deisebydd ac
yn cau’r ddeiseb. |
|
P-06-1245 Cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal yn y Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i anfon y ddeiseb at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd
i’w thrafod yn ei raglen waith, diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod y Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd yn cynnal adolygiad annibynnol o’r
adroddiadau Adran 19. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y
deisebydd am hyn ac am ganlyniadau cadarnhaol eraill y gwaith deisebu, gan
gynnwys rhoi mwy o ystyriaeth i’r effeithiau ar iechyd meddwl wrth fuddsoddi yn
y dyfodol i liniaru llifogydd, a chaeodd y ddeiseb. |
|
P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James
AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain. Nododd y Pwyllgor
fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch ymgynghori â rhanddeiliaid
pan fydd yn bwrw ymlaen â’r adolygiad o’r Cod, er na all roi amserlen benodol
ar hyn o bryd oherwydd effaith ffliw’r adar, Covid a Brexit. Yng ngoleuni y
sicrwydd hwb gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a
chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Cytunodd y
Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor wrth aros am y diweddariad nesaf gan y
Gweinidog. |
|
P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog yn gofyn i Lywodraeth Cymru:
|
|
P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i:
Cytunodd hefyd i
gau'r ddeiseb ar y sail honno. |
|
P-06-1254 Dylid mynnu bod pob darluniad o’n draig yn cynnwys pidyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Caeodd y Pwyllgor
y ddeiseb. |
|
P-06-1246 Cael gwared ar y terfyn niferoedd ar gyfer cynulliadau awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau cymunedol barhau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth bellach a gafwyd gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb, gan
nad oes unrhyw gamau pellach i’w cymryd wrth i’r rheoliadau gael eu llacio. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem tan 7 Mawrth. |