P-06-1234 Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd i 50 mya
P-06-1234 Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd i 50 mya
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Millington, ar ôl
casglu cyfanswm o 271 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £336m i wella ffordd
Blaenau’r Cymoedd, a oedd yn arfer bod wedi’i chyfyngu i 50mya. Os caiff y
ffordd newydd ei chyfyngu i 50mya, bydd y £336m wedi cael ei wastraffu’n llwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r gwaith ar y ffordd wedi rhedeg drosodd o ran amser
a chostau, gyda defnyddwyr rheolaidd yn wynebu blynyddoedd o oedi a therfyn o
40mya. Bydd terfyn cyflymder o 50mya yn chwalu’r addewid o gyflymu amser
teithio. Fel ffordd newydd, bydd y prosiect wedi’i gynllunio gyda gwelededd da
a’r mesurau diogelwch diweddaraf. Nid oes cyfiawnhad dros derfyn o 50mya.

Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor y bu’r ffordd yn destun gwaith craffu
helaeth, gan gynnwys ymchwiliad cyhoeddus, a’i bod wedi’i dylunio a’i hadeiladu
i weithredu gyda therfyn cyflymder uchaf o 50mya. Gan ei bod bellach ar agor,
dylai’r ffordd ddeuol fod yn fwy diogel na’r hen ffordd sengl tair lôn, felly
cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Brycheiniog a Sir Faesyfed
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2022