P-06-1244 Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas
P-06-1244 Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Vivienne Jenkins, ar ôl casglu cyfanswm o
314 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae hanes bellach yn dangos i ba raddau roedd George Thomas yn euog yng
ngoleuni camddenfyddio arian a roddwyd i oroeswyr a theuluoedd a oedd yn eu
galar yn dilyn trychineb Aberfan. Mae’r ffaith bod y dyn hwn wedi cael ei
anrhydeddu drwy enwi ysbyty ar ei ôl yn sen y dylid ei chywiro.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i ofyn am ei
farn ar y ddeiseb.
Pan ddaw’r ymateb gan y bwrdd iechyd i law, bydd y Pwyllgor yn ei anfon
ymlaen at y deisebydd ac yn cau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2022