P-06-1245 Cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal yn y Senedd
P-06-1245 Cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal yn y Senedd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘Women's Equality Network Wales’, ar ôl casglu
cyfanswm o 199 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gweledigaeth Ymgyrch 5050Amrywiol yw sicrhau bod rhagor o fenywod Duon,
Asiaidd, menywod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, menywod LGBTQ+, menywod anabl,
a menywod â nodweddion gwarchodedig eraill yn y strwythur arweinyddiaeth yng
Nghymru, a bod gennym Senedd sy'n gytbwys o ran y rhywiau ac sy’n adlewyrchu'r
boblogaeth gyfan yng Nghymru.
Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru yn cefnogi cwotâu rhyw
integredig, ond mae angen gwneud rhagor.
Rydym yn galw am gwotâu integredig o ran amrywiaeth ac o ran rhywedd, sy'n
gyfreithiol rwymol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Er bod y Senedd yn dathlu bod â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, mae
cynrychiolaeth menywod wedi gostwng i 43 y cant ers hynny. Gwneir gwell
penderfyniadau yn sgil rhagor o amrywiaeth, ac mae diffyg cynrychiolaeth
amrywiol wedi cael effaith negyddol, fel y mae pobl anabl wedi’i brofi yn ystod
y pandemig COVID-19. Mae gan 100 o wledydd ledled y byd gwotâu o ran y rhywiau,
ac mae tua 40 o wledydd yn eu defnyddio ar gyfer nodweddion ychwanegol. Mae tystiolaeth
ryngwladol yn dangos mai cwotâu fu'r offeryn unigol mwyaf effeithiol ar gyfer
sicrhau 'llwybr carlam' o ran cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus a
gwleidyddol.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56225381
Krook, ML & Zetterberg, P. (2014). Cwotâu etholiadol a chynrychiolaeth
wleidyddol: safbwyntiau cymharol, Adolygiad Gwyddoniaeth Wleidyddol Ryngwladol
Cyf 35(1), 3-11.
https://llyw.cymru/drws-ar-glo-datgloi-bywydau-hawliau-pobl-anabl-yng-nghymru-ar-ol-covid-19-html.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i anfon y ddeiseb at y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i’w thrafod yn ei raglen waith, diolch i’r
deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2022