P-06-1254 Dylid mynnu bod pob darluniad o’n draig yn cynnwys pidyn
P-06-1254 Dylid mynnu bod pob darluniad o’n draig yn cynnwys pidyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhŷn Williams, ar ôl casglu cyfanswm o
1,104 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ym maes symboleg, mae pidyn ar ei godiad yn cyfleu ffrwythlondeb a nerth,
ac mae hyn yn bwysicach fyth pan gaiff ei ddefnyddio ar arwyddlun brenhinol er
mwyn dangos gallu arweinydd i gynnal teyrnas, gan fod rhaid cyfleu hyn trwy
ddelweddau syml, felly... pan fydd gan y ddraig godiad, mae'n cyfleu
goruchafiaeth ac arweinyddiaeth, ond pan fydd y pidyn yn absennol, mae’n
cyfleu’r creadur (y genedl) fel un darostyngedig, egwan ac eiddil.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Pan fydd y Bathdy Brenhinol yn ei darlunio, mae’n cydnabod bod gan ein draig
bidyn, ond, am ryw reswm, nid felly y mae ein llywodraeth yn ei wneud, ac er y
gallai rhai deimlo bod y pwnc yn ddoniol, mae'r delweddiad hwn yn bwysig os
ydym am barhau i'w hedfan am ganrifoedd i ddod.
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/royal-mint-makes-20-welsh-11558570
[Saesneg yn unig]
https://www.royalmint.com/our-coins/ranges/denomination/The-Welsh-Dragon-Celebration-2019-UK-20-pound-Fine-Silver-Coin/
[Saesneg yn unig].
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/01/2022