P-06-1231 Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru
P-06-1231 Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘Rewilding Group, Climate Change Grand
Challenge, Cardiff University School of Law and Politics’, ar ôl casglu
cyfanswm o 197 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd a mwy
'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru, ac ymrwymo i wneud 10 y cant o arosfannau
bysiau yn gyfeillgar i wenyn dros y pum mlynedd nesaf.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Byddai’r prosiect dad-ddofi hwn yn helpu i amddiffyn poblogaethau gwenyn
hanfodol, yn gwneud cyfraniad bach at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd
ac yn ehangu ecosystemau lleol, gan gynyddu bioamrywiaeth.
Gallai gosod arosfannau bysiau cyfeillgar i wenyn, ac arnynt doeau tyfiant,
hefyd storio dŵr glaw, gwella ansawdd aer a gwella gwedd rhwydwaith ffyrdd
cymunedau Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ystyried
mentrau seilwaith gwyrdd yn flaenoriaeth ac y dylai Asesiadau Seilwaith Gwyrdd
Awdurdodau Lleol ysgogi’r camau nesaf yn lleol. Felly, cytunodd i ddiolch i’r
deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/12/2021