P-06-1246 Cael gwared ar y terfyn niferoedd ar gyfer cynulliadau awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau cymunedol barhau
P-06-1246 Cael gwared ar y terfyn niferoedd ar gyfer cynulliadau awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau cymunedol barhau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gareth Howell, ar ôl casglu cyfanswm o 2,488
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod terfyn llym o 50 o bobl ar
gyfer digwyddiadau yn yr awyr agored o Ŵyl San Steffan ymlaen. Mae hyn yn
golygu’n syth nad yw nifer o ddigwyddiadau cymunedol yn bosibl mwyach, fel
cynulliadau tymhorol a digwyddiadau parkrun, sydd mor bwysig i iechyd meddwl ac
iechyd corfforol y genedl yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae gwahardd y digwyddiadau hyn yn greulon, yn anghymesur ac yn groes i’r
holl dystiolaeth sydd ar gael ynghylch lledaeniad COVID yn yr awyr agored, ac
rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r penderfyniad hwn ar unwaith..
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae nifer o’r digwyddiadau hyn eisoes yn ddarostyngedig i asesiadau risg
trylwyr i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn ffordd sy’n golygu lefel
dderbyniol o risg o ran COVID, fel bod cyfranogwyr yn rhydd i benderfynu beth
sydd orau iddynt. Gweler y ‘parkrun Covid framework’ fel esiampl.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y
fframweithiau hyn yn annigonol ar gyfer diogelu’r cyhoedd ac mae’n hynod o
anghyfrifol, yn ein barn ni, fod chwaraeon cymunedol yn cael eu hatal “rhag
ofn” wrth gloriannu manteision parhau â’r digwyddiadau hyn ar y un llaw a’r
risgiau ar y llaw arall.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd gan y
deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb, gan nad oes unrhyw gamau pellach i’w
cymryd wrth i’r rheoliadau gael eu llacio.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/02/2022