P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl
P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mike O'Brien, ar ôl casglu cyfanswm o 133
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Llofnodwch y ddeiseb a gofynnwch i Lywodraeth Cymru gwrdd â chynulleidfa
ehangach o ofalwyr di-dâl a gwrando ar ein straeon. Rydym am i Lywodraeth Cymru
gwrdd yn rheolaidd â gofalwyr y tu allan i sefydliadau a phwyllgorau gofalwyr.
Nod y cyfarfodydd hyn fyddai rhoi llais i ofalwyr, cyfle i rannu eu pryderon ac
i Lywodraeth Cymru glywed straeon go iawn gofalwyr ar lawr gwlad.
Rydym yn haeddu'r hawl i’n lleisiau gael eu clywed. Mae gofalwyr di-dâl
wedi cael eu hanwybyddu’n rhy hir a hyd yn oed yn fwy felly yn ystod y
pandemig. Er enghraifft, dywedodd Llywodraeth Cymru na allai ddod o hyd i
unrhyw enghreifftiau o wasanaethau'n cael eu hatal yn ystod y pandemig, ond mae
gofalwyr gwirioneddol ar lawr gwlad yn gwybod bod gwasanaethau wedi'u hatal ac
nad ydynt wedi'u hailddechrau o hyd.
Rydym yn gofyn i Weinidogion perthnasol gwrdd â ni fel y gallwn helpu i
lunio polisïau yn y dyfodol i sicrhau dyfodol gwell i ofalwyr di-dâl sy'n byw
yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd nad oes llawer rhagor y gallant
ei wneud ar y mater fel Pwyllgor, fodd bynnag mae’n bosibl i’r Aelodau hyrwyddo
profiad byw gofalwyr mewn gwaith yn y dyfodol ac ar lawr y Siambr. Cytunodd y
Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/02/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2022