Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/09/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
Cyfarfod y Pwyllgor Gweinyddol – 17 Mai 2023 Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
Gwaith dilynol ar ôl sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidog ar 21 Mehefin 2023 Dogfennau ategol: |
||
Gwaith dilynol ar ôl sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidog ar 21 Mehefin 2023 Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig Dogfennau ategol: |
||
Triniaethau Hadau Indrawn Porthiant Dogfennau ategol: |
||
Gweithgynhyrchu yng Nghymru – ymchwiliad undydd - 8 Mehefin 2023 Dogfennau ategol: |
||
Amserlen Ddrafft Cyllideb 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaeth Rhagnodi Electronig Gofal Sylfaenol Dogfennau ategol:
|
||
Y Bil Bwyd (Cymru): Ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Y DU/Y Swistir: Cytundeb ar Gydnabod Cymwysterau Proffesiynol Dogfennau ategol:
|
||
Gyrwyr HGV yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol: Gallu Datganoli yn Whitehall Dogfennau ategol: |
||
Cynllun Natur y Bobl Dogfennau ategol: |
||
Cynllun Dychwelyd Ernes Dogfennau ategol: |
||
Model Gweithredu Targed y Ffin Dogfennau ategol: |
||
Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach ar 7 Medi Dogfennau ategol: |
||
Memorandwa Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Bargen Twf Canolbarth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd James
Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys Nicola Williams,
Rheolwr Cyflawni Rhaglen Strategol - Cydbwyllgor Corfforaethol, Cyngor Sir
Powys Clive Davies,
Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio, Cyngor Sir Ceredigion Carwyn
Jones-Evans, Rheolwr Gwasanaeth Twf, Cyngor Sir Ceredigion Anthony Hunt,
Arweinydd Cyngor Torfaen Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel. |
|
(10.40-11.40) |
Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Twf Gogledd Cymru Jonathan Burnes,
Cyfarwyddwr Portffolio, Bargen Ddinesig Bae Abertawe David Simpson,
Arweinydd Cyngor Sir Penfro Dyfrig Siencyn,
Arweinydd Cyngor Gwynedd | Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Hedd
Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, Uchelgais Gogledd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel. 4.2 O dan Reol Sefydlog 17.47, gwnaeth y
Cadeirydd atal y trafodion dros dro i ddatrys mater technegol. Cafodd y
trafodion eu hatal dros dro o 10:58 i 11:01. |
|
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y Cynnig i wahardd y cyhoedd am
weddill y cyfarfod. |
|
(11.40-11.50) |
Papur cwmpasu: Ymchwiliad i ynni niwclear ac economi Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd ar
gwmpas a dull gweithredu ar gyfer ymchwiliad i Ynni Niwclear ac economi Cymru. |
|
(11.50-12.00) |
Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023: Diweddariad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf
am gyfraith yr UE a ddargedwir a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
gofyn iddi wneud yr hyn a ganlyn: ·
Cadarnhau a oes unrhyw gynlluniau'n
cael eu datblygu i ddefnyddio'r pwerau newydd a ddarperir i Weinidogion Cymru
gan y Ddeddf; ·
Cadarnhau a yw'n ymwybodol o unrhyw
gynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r pwerau newydd mewn meysydd
datganoledig, neu mewn meysydd a gadwyd yn ôl a fydd yn effeithio ar Gymru; a ·
Rhannu copi o'i dadansoddiad
diweddaraf o gyfraith yr UE a ddargedwir a restrir yn Atodlen 1 o fewn cylch
gwaith y Pwyllgor hwn. |
|
(12.00-12.05) |
Diweddariad ynghylch cytundebau masnach: Haf 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf
am Gytundebau Masnach a chytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn: ·
Ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn
gofyn am ei dadansoddiad o'r hyn y mae Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y
Môr Tawel yn ei olygu i Gymru. ·
Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
ofyn am ei dogfen safbwynt yn manylu ar ei dadansoddiad o aelodaeth
Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel; a ·
Ystyried cymryd camau pellach ar ôl
cael y ddogfen, gan gynnwys monitro parhaus o effeithiau disgwyliedig y
cytundeb, cael tystiolaeth rhanddeiliaid a rhannu gwybodaeth â phwyllgorau
cyfatebol yn seneddau eraill y DU. |
|
(12.05-12.15) |
Trafod y Flaenraglen Waith: Gwanwyn 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar
gyfer Gwanwyn 2024 a chytunodd arni. |
|
(12.15-12.20) |
Ymweliad â Brwsel: Papur opsiynau Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau a
phenderfynodd roi ystyriaeth bellach i amseriad ymweliad. |