Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog yr Economi
Mae’r gwaith o
graffu ar bolisi busnes, datblygu economaidd, sgiliau a masnach ryngwladol
Llywodraeth Cymru yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion
Gwledig. Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau craffu cyffredinol rheolaidd
gyda Gweinidog yr Economi i i fodloni'r gofyniad hwn. Mae manylion y sesiynau
craffu cyffredinol hyn i'w gweld ar y tudalennau hyn.
Bydd y Pwyllgor
hefyd yn craffu ar ddarnau penodol o waith o fewn cylch gwaith y Gweinidog, fel
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru neu raglen ddeddfwriaethol. Mae manylion am
hyn i'w gweld ar hafan y Pwyllgor.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2023