Bargeinion Dinesig a Thwf

Bargeinion Dinesig a Thwf

Bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn craffu ar weithgarwch o ran bargeinion dinesig a bargeinion twf ym mhob un o’r pedwar rhanbarth economaidd yng Nghymru.

 

Crynodeb

Bydd y Pwyllgor yn archwilio gweithgarwch o ran bargeinion dinesig a bargeinion twf ym mhob un o’r pedwar rhanbarth economaidd yng Nghymru a’r ffordd y mae'n cyd-fynd â’r strategaethau economaidd ar gyfer Cymru a’r DU.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>Y sefyllfa bresennol o ran y pedair Bargen Ddinesig a Thwf a’r camau nesaf sydd yn yr arfaeth i fwrw ymlaen â hwy

>>>Effaith arfaethedig y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf a’r ffordd y caiff hyn ei lywodraethu, ei ariannu a’i fonitro

>>>Y manteision posibl a gynigir gan y Bargeinion

>>>I ba raddau y gallai'r Bargeinion Twf a'r Bargeinion Dinesig ddatrys neu waethygu anghydraddoldebau presennol, o fewn rhanbarthau a rhyngddynt

>>>I ba raddau y mae’r Bargeinion Twf a’r Bargeinion Dinesig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru a strategaeth y DU ar gyfer datblygu a thwf rhanbarthol

<<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2023