Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2     Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Vikki Howells wedi rhoi’r gorau i’w haelodaeth o'r Pwyllgor ers iddi gael ei phenodi’n Weinidog Addysg Bellach ac Uwch.

1.3     Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David. Dirprwyodd Mick Antoniw ar ei rhan.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru

Dogfennau ategol:

2.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymchwil a Datblygu

Dogfennau ategol:

2.3

Sesiwn ddilynol gwaith craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog - Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

2.4

Sesiwn ddilynol gwaith craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Dogfennau ategol:

2.5

Dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pholisi masnach

Dogfennau ategol:

2.6

Dyfodol Dur yng Nghymru

Dogfennau ategol:

2.7

Iechyd a lles anifeiliaid - defnyddio cewyll ar gyfer adar hela

Dogfennau ategol:

2.8

Hybu Cig Cymru - diwylliant a gweithrediadau

Dogfennau ategol:

2.9

Polisi ‘Bwyd o Bwys: Cymru’ Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.10

Rheoliadau Llygredd Amaethyddol

Dogfennau ategol:

2.11

Diwygio’r Ardoll Brentisiaethau

Dogfennau ategol:

2.12

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – adborth gan randdeiliaid yn Sioe Frenhinol Cymru

Dogfennau ategol:

2.13

Yr economi werdd

Dogfennau ategol:

2.14

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Cyswllt Ffermio

Dogfennau ategol:

2.15

Strategaeth Ryngwladol a Maes Awyr Cymru Caerdydd

Dogfennau ategol:

2.16

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 (“Rheoliadau 2024”)

Dogfennau ategol:

2.17

Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

2.18

Cytundeb Lefel Gwasanaeth Gweinidogion Cymru, yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a Gwasanaeth Symudiadau Gwartheg Prydain

Dogfennau ategol:

2.19

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Yr Economi Sylfaenol - Panel 1

Yr Athro Emeritws Karel Williams, Prifysgol Manceinion

Yr Athro Anne Green, Prifysgol Birmingham

Harry Thompson, Pennaeth yr Economi Deg, Cynnal Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Karel Williams (Prifysgol Manceinion), yr Athro Anne Green (Prifysgol Birmingham), a Harry Thompson (Cynnal Cymru).

3.2     Cytunodd Harry Thompson i rannu adroddiad ar y Gymuned Ymarfer a sefydlwyd ar gyfer Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru.

 

(10.35-11.20)

4.

Yr Economi Sylfaenol - Panel 2

Y Cynghorydd Matthew Brown, Arweinydd Cyngor Dinas Preston

Ceri Cunnington, Swyddog Datblygu, Cwmni Bro Ffestiniog

 

 

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Preston a Chwmni Bro Ffestiniog.

4.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â phwyntiau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.20)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1     Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(11.20-11.30)

6.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.

 

(11.30-12.00)

7.

Yr economi werdd: Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol. Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(12.00-12.05)

8.

Trafodaeth ar adroddiad Monitro Masnach Ryngwladol

Cofnodion:

8.1     Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am fonitro masnach a chytunodd i gyhoeddi'r adroddiad.