Dyfodol Dur yng Nghymru

Dyfodol Dur yng Nghymru

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi'i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiynau tystiolaeth gyda Tata Steel, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr undebau llafur i drafod y diwydiant dur yn Ne Cymru.

 

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi cynnal sesiwn untro o’r blaen ar ddatgarboneiddio’r diwydiant dur yn ne Cymru gyda Tata Steel ar 26 Ebrill 2023.

 

Yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor gyda Tata Steel UK ar 7 Chwefror 2024, gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor ddatganiad.

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd ddatganiad pellach ar 25 Ebrill ar ôl i drafodaethau rhwng Tata Steel UK a’r undebau ddod i ben

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/01/2024