Economi gwyrdd

Economi gwyrdd

Mae'r Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i'r economi werdd.

 

Cylch Gorchwyl

 

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn ystyried y canlynol:

>>>> 

>>>O fewn ei phwerau datganoledig, beth ddylai blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru fod, i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd posibl o sectorau’r economi werdd? I ba raddau y mae ei dull presennol yn adlewyrchu'r rhain?

>>>Beth yw’r rhwystrau allweddol i Gymru o ran gwneud y gorau o gyfleoedd yn yr economi werdd, a pha gamau y dylid eu cymryd i’w goresgyn?

>>>Pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru yn sectorau’r economi werdd?

>>>Pa heriau o ran sgiliau sy’n bodoli mewn perthynas â phontio i economi werdd? Pa gamau y dylid eu cymryd, a phwy ddylai eu cymryd, i sicrhau bod y sgiliau yno i fodloni gofynion cynyddol economi werdd?

>>>Beth fydd ei angen ar weithwyr a chyflogwyr ar gyfer pontio teg i economi Sero Net, a pha gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyflawni’r elfennau o hyn sydd o fewn ei phwerau datganoledig?

>>>Ym mha ffyrdd y bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth ag eraill i wireddu potensial yr economi werdd a sicrhau cyfnod pontio teg? I ba raddau y mae'r gwaith partneriaeth sydd ei angen yn cael ei wneud?

>>>Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn wynebu cyfyngiadau cyllidebol sylweddol yn y tymor byr. Sut y dylai flaenoriaethu buddsoddi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r economi werdd yn y tymor byr a’r tymor hwy? Pa ddulliau ariannu arloesol y gellid eu hystyried i wneud y mwyaf o fuddsoddiad a buddion posibl?

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/01/2024

Ymgynghoriadau