Gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC)
Gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC)
Mae Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn cynnal
ymchwiliad byr i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy
(“y Cynllun”) i'r graddau y maent yn ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor.
Cefndir
Ers i’r DU
ymadael â’r UE, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal system gymorth Polisi
Amaethyddol Cyffredin yr UE yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn
bwriadu cyflwyno system gymorth newydd – y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – a fydd
yn dechrau yn 2025.
Mae'r cynigion yn
y Cynllun yn destun ymgynghoriad
cyhoeddus ar hyn o bryd (tan 7 Mawrth). Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r
canlynol:
>>>>
>>>sut y
bydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn
ogystal â chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy,
>>>sut
mae'r cynllun yn bodloni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy,
>>>a’r
cymorth sydd ar gael.
<<<<
Ein dull ni
Cynhaliodd y
Pwyllgor ddigwyddiad rhanddeiliaid (drwy wahoddiad yn unig) ar 13 Mawrth 2024,
lle cafodd cyfranogwyr gyfle i drafod holl agweddau ar gynigion y Cynllun
Ffermio Cynaliadwy.
Bu’r Pwyllgor yn
cynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda chynrychiolwyr y sector amaethyddol, y
sector amgylcheddol, ac academyddion ar 21 Mawrth 2024.
Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar a fydd y cynigion yn gweithio i ffermwyr a’r
amgylchedd, a sut.
Tystiolaeth gan
randdeiliaid:
Undeb
Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (saesneg yn unig)
Undeb
Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru - Crynodeb (saesneg yn unig)
Undeb
Amaethwyr Cymru (FUW) (saesneg yn unig)
Tenant
Farmers Association (saesneg yn unig)
y
Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur (saesneg yn unig) 1
y
Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur (saesneg yn unig) 2
Cymdeithas
y Pridd (saesneg yn unig) 1
Cymdeithas
y Pridd (saesneg yn unig) 2
Cyswllt
Amgylchedd Cymru (saesneg yn unig)
Dr
Ludivine Petetin (saesneg yn unig)
Yr
Athro Iain Donnison (saesneg yn unig)
Caiff yr hyn sy’n
deillio o waith y Pwyllgor ei rannu â Llywodraeth Cymru gyda golwg ar lywio’r
Cynllun Ffermio Cynaliadwy terfynol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024
Dogfennau