Cyswllt Ffermio

Cyswllt Ffermio

Sefydlwyd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gan y Senedd i edrych ar bolisïau a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, a bwyd.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad undydd byr ar Gyswllt Ffermio ar 22 Chwefror 2024, a oedd yn canolbwyntio ar barodrwydd a gallu Cyswllt Ffermio i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen yn y dyfodol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2025 ymlaen, ac i gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod pontio.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/01/2024

Dogfennau