Banc Datblygu Cymru

Banc Datblygu Cymru

Inquiry2

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru.

 

Cylch Gorchwyl

 

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>Perfformiad cyffredinol Banc Datblygu Cymru ers ei sefydlu yn 2017, gan gynnwys meysydd o lwyddiant yn ogystal ag unrhyw feysydd o danberfformiad.

>>>I ba raddau y mae’r Banc Datblygu wedi cyflawni’r amcanion penodol a nodir yn y ddogfen Banc Datblygu Cymru – ased cenedlaethol strategol ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017 ac yn y 'Llythyr cylch gwaith Tymor y Llywodraeth' ar gyfer y Banc Datblygu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021.

>>>Edrych ar enghreifftiau o arfer gorau byd-eang, a deall sut mae Banc Datblygu Cymru yn cymharu â banciau datblygu eraill o faint tebyg – o ran maint y cyllid, y mathau o gymorth a ddarperir ac effaith y cymorth, ac ati.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2023

Ymgynghoriadau