Ymchwil a Datblygu

Ymchwil a Datblygu

Inquiry3

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad cipolwg, i asesu sefyllfa bresennol y dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru ac effeithiolrwydd y canlynol:

>>>> 

>>>Ariannu cyhoeddus: gan gynnwys lefelau ariannu; rhwystrau i fynediad; gwahaniaethau rhanbarthol ar draws y DU a Chymru

>>>Cydweithio: rhwng prifysgolion a diwydiant

>>>Cefnogaeth i fusnesau Cymreig: trwy ymchwil a datblygiad

>>>Dull gweithredu Llywodraeth Cymru: gan gynnwys ei Strategaeth Arloesi ddiweddar

<<<< 

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan randdeiliaid ar 30 Tachwedd 2023.

 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gyfrannu ar gael ar ein tudalen ymgynghori.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023

Ymgynghoriadau