Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

(10.00 – 10.45)

2.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Sesiwn dystiolaeth

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Helen Kellaway, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Gareth Baglow, Uwch Reolwr Polisi Tai Sector Preifat, Llywodraeth Cymru

Caroline Matthews, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

(10.50 – 10.55)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)459 – Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2024

Gorchymyn (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)462 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)463 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(10.55 – 11.00)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

4.1

SL(6)460 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024

Rheoliadau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

4.2

SL(6)461 - Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(11.00 – 11.05)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(6)454 - Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

5.2

SL(6)455 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

5.3

SL(6)457 - Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(11.05 – 11.10)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd mewn cysylltiad â chyfarfodydd y canlynol:

·         y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE,

·         y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol,

·         y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd, ac

y Grŵp Rhyngweinidogol ar Chwaraeon.

6.2

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

6.3

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheolaethau Swyddogol (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

(11.10 – 11.15)

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Economi.

7.2

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol: Craffu ar Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷr Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

7.3

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o wybodaeth.

7.4

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

7.5

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i Offerynnau Statudol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a chytunodd i ysgrifennu gyda rhagor o sylwadau.

7.6

Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ofyn am ragor o wybodaeth.

(11.15 – 11.20)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mawrth 2024

Cofnodion:

Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Etholodd y Pwyllgor Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mawrth 2024.

(11.20)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(11.20 - 11.35)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

(11.35 – 12.00)

11.

Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

(12.00 – 12.10)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.

(12.10 – 12.20)

13.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfiawnder Troseddol: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd yn ffurfiol ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Llywydd, a llythyr ar y cyd oddi wrth elusennau tai a digartrefedd yng Nghymru.