Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Rhentwyr (Diwygio)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Rhentwyr (Diwygio)

Cyflwynwyd y Bil Rhentwyr (Diwygio) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 17 Mai 2023.

 

Mae'r teitl hir y Bil yn nodi mai diben y Bil yw “gwneud darpariaeth sy'n newid y gyfraith ynghylch tai rhent, gan gynnwys darpariaeth diddymu tenantiaethau sicr cyfnod penodol a thenantiaethau byrddaliol sicr; gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid ac eraill mewn perthynas â thai rhent, llety dros dro a llety â chymorth; ac at ddibenion cysylltiedig.”

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Ionawr 2024

 

Ar 30 Ionawr 2024, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 235KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 15 Mawrth 2024 (PDF 28KB).

 

Ar 27 Chwefror 2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 26 Ebrill 2024 (PDF 49KB).

 

Ar 16 Ebrill 2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 10 Mai 2024 (PDF 49KB).

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/01/2024