Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)
Cafodd y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr
a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel) (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 8 Tachwedd 2023.
Mae'r teitl hir
i'r Bil yn nodi mai ei ddiben yw "Galluogi gweithredu, a gwneud
darpariaeth arall mewn cysylltiad â’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer
Partneriaeth y Môr Tawel."
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Cynhaliwyd
pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 12
Mawrth 2024 ar gynnig mewn perthynas â chymal 2, ac fe’i derbyniwyd.
Cynhaliwyd
pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 12
Mawrth 2024 ar gynnig mewn perthynas â chymalau 3 a 4, ac fe’i gwrthodwyd.
Cynhaliwyd
pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 19
Mawrth 2024 ar gynnig mewn perthynas â chymalau 3 a 4, ac fe’i derbyniwyd.
Cynhaliwyd
pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 19
Mawrth 2024 ar gynnig mewn perthynas â chymal 2, ac fe’i gwrthodwyd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ionawr 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 201KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 24
Ionawr 2024.
Mae'r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor
Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 15
Mawrth 2024 (PDF 39KB).
Ar 20 Chwefror
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r pwyllgorau gyflwyno
adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil sef 8 Mawrth 2024
(PDF 30KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
256KB) ar 22 Chwefror 2024. Ymatebodd
(PDF 183KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Mawrth 2024.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
268KB) ar 6 Mawrth 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 312KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 8 Rhagfyr
2023.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion
Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen
cyflwyno adroddiad arno erbyn 15 Mawrth 2024
(PDF 39KB).
Ar 20 Chwefror
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r pwyllgorau gyflwyno
adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil sef 8 Mawrth 2024
(PDF 30KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
256KB) ar 22 Chwefror 2024. Ymatebodd
(PDF 183KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Mawrth 2024.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
268KB) ar 6 Mawrth 2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2023