Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig
Cafodd y Fil Cerbydau Awtomeiddiedig
(y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 8 Tachwedd 2023.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi ei fod yn Fil i reoleiddio'r defnydd o gerbydau awtomeiddiedig ar
ffyrdd ac mewn mannau cyhoeddus eraill; ac i wneud darpariaeth arall mewn
perthynas ag awtomeiddio cerbydau.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd y
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig yn y
Cyfarfod Llawn ar 23
Ebrill 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Ebrill 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 196KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 5
Ebrill 2024.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 22 Ebrill 2024
(PDF 38KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
180KB) ar 22 Ebrill 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Chwefror 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 180KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 13
Chwefror 2024.
Mae'r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 19
Ebrill 2024 (PDF 28KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
175KB) ar 15 Mawrth 2024.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad (PDF
126KB) ar 15 Mawrth 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 162KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 24
Tachwedd 2023.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen
cyflwyno adroddiad arno erbyn 1 Mawrth 2024
(PDF 39KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
200KB) ar 22 Chwefror 2024. Ymatebodd
(PDF 146KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 6 Mawrth 2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2023