Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd
dirprwyon yn bresennol. |
|
(09.00 - 09.05) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)350 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(09.05 - 09.10) |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)351 - Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid
cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)354 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid
cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cafwyd
datganiad o fuddiant perthnasol gan James Evans AS. Hefyd, nododd y Pwyllgor y
llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
||
SL(6)348 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid
cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)353 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid
cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)352 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd y dylid
cyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(09.10 - 09.15) |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)341 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau Bwyd, a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
SL(6)349 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
(09.15 - 09.25) |
Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol |
|
Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Gweinidog. |
||
Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Planhigion a Chyflyrau Ffytoiechydol (Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw a Phlâu Planhigion) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y
Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(09.25 - 09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nid oedd unrhyw bapurau i'w nodi. |
|
(09.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.30 - 09.45) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2). Cytunodd y
Pwyllgor y dylid ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o eglurder, ac
wedyn i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(09.45 - 09.55) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a
chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(09.55 - 10.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon a chytunodd i drafod ei
adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10.10 - 10.15) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau
rhyngwladol a drafodwyd ar 24 Ebrill 2023 cyn cytuno arno. |
|
(10.15 - 10.25) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion sy’n gysylltiedig â'i
flaenraglen waith. |