Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon

Cyflwynwyd y Bil Mudo Anghyfreithlon yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Mawrth 2023.

 

Mae'r teitl hir i'r Bil yn nodi mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â symud pobl ymaith o’r Deyrnas Unedig sydd wedi mynd i’r wlad neu wedi ei chyrraedd yn groes i reolaeth mewnfudo; gwneud darpariaeth ynghylch rhoi dan gadw at ddibenion mewnfudo; gwneud darpariaeth ynghylch plant sydd ar eu pen eu hunain; gwneud darpariaeth ynghylch dioddefwyr caethwasiaeth neu fasnachu pobl;  gwneud darpariaeth ynghylch caniatâd i ddod  i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yn y Deyrnas Unedig; gwneud darpariaeth ynghylch dinasyddiaeth; gwneud darpariaeth ynghylch annerbynioldeb rhai amddiffyniadau a rhai hawliadau hawliau dynol yn ymwneud â mewnfudo; gwneud darpariaeth ynghylch uchafswm nifer y personau sy'n dod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn flynyddol gan ddefnyddio llwybrau diogel a chyfreithiol; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

Gwrthodwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Mudo Anghyfreithlon yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Mehefin 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Mai 2023

Gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 153KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 26 Mai 2023.

 

Cytunodd (PDF 41.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 19 Mehefin 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 264KB) ar 19 Mehefin 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2023

Gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 145KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 31 Mawrth 2023.

Cytunodd (PDF 42.4KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon, ac i gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 15 Mehefin 2023.

 

Ar 9 Mai 2023, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hefyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. I ddechrau, gosodwyd dyddiad cyflwyno adroddiad y Pwyllgor fel 15 Mehefin 2023. Ar ôl i Lywodraeth Cymru osod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 26 Mai 2023, newidiodd y Pwyllgor Busnes ddyddiad cyflwyno adroddiad y Pwyllgor i 19 Mehefin 2023.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes – 18 Mai 2023 (PDF 76KB).

 

Ar 22 Mai, ymgynghorodd (PDF 251KB) y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol â rhanddeiliaid. Fe wnaethant hefyd ysgrifennu (PDF 188KB) at Lywodraeth Cymru yn gofyn am beth gwybodaeth bellach, a chafwyd ymateb (PDF 255KB) ar 7 Mehefin.

 

Cafwyd wyth ymateb gan randdeiliaid, sydd wedi’u rhestru o dan y pennawd dogfennau isod. 

 

Addrodd

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad ar y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon ar 19 Mehefin 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF 225KB) ar y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mudo Anghyfreithlon ar 19 Mehefin 2023.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/04/2023

Dogfennau