Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.00 - 14.05) |
Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Sesiwn dystiolaeth Panel 1 Charles Whitmore,
Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru Tom Jones,
cynrychiolydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Fforwm Cymdeithas Sifil y DU-UE Brigid Fowler,
Cymdeithas Hansard Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Charles Whitmore, Tom Jones, a Brigid Fowler. |
|
(14.15 - 15.20) |
Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Sesiwn dystiolaeth Panel 2 Yr Athro Tobias
Lock, Prifysgol Maynooth Lisa Whitten,
Prifysgol Queen’s Belfast Dr Elin Royles,
Prifysgol Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Tobias Lock,
Dr Lisa Whitten, a Dr Elin Royles. |
|
(15.25 - 15.30) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(15.30 - 15.35) |
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol |
|
SL(6)362 – Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(15.35 - 15.40) |
Fframweithiau cyffredin |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Fframweithiau Cyffredin Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
(15.40 - 15.45) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
(15.45 - 15.50) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol
dros Fusnes a Masnach. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Papur Gwyn – System Dribiwnlys Newydd i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg. |
||
(15:50 – 15:55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd Pwyllgor dros dro ar gyfer y cyfarfod Pwyllgor ar 3 Gorffennaf 2023 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ethol Alun Davies AS yn gadeirydd
dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 3 Gorffennaf 2023. |
|
(15.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(15.55 – 16.05) |
Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.05 – 16.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(16.15 – 16.55) |
Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod adroddiad diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol. Hefyd, fe drafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Gweinidog Newid Hinsawdd. |
|
(16.55 – 17.05) |
Adolygiad o oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddatblygiadau diweddar mewn
perthynas â Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i
gael rhagor o wybodaeth am safbwynt Llywodraeth Cymru. |
|
Made Negative Resolution Instruments |
||
Made Negative Resolution Instruments |
||
Affirmative Resolution Instruments |