Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 05/12/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
13.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Roedd Jennie
Rathbone AS a Sioned Williams AS yn bresennol o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer eitem 2. |
|
13.30 - 14.30 |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Cyfiawnder yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Bellamy CB,
yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU. |
|
14.40 - 14.45 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)286 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)290 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth
Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a
nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn gofyn am eglurhad pellach. |
||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)291 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
14.45 - 14.50 |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)280 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)282 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
14.50 - 14.55 |
Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol) |
|
SICM(6)2 - Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol Llywodraeth Cymru a chytunodd i ystyried adroddiad drafft mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
||
14.55 - 15.00 |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022 (“Rheoliadau 2022”). Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Prif Weinidog. |
||
Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfarfod Cyngor y Gweinidogion Addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
15.00 – 15.05 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nid oedd dim papurau i’w nodi yn y cyfarfod hwn. |
|
15.05 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 9, 10, 11 ac 13. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
15.05 |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan yr Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol
dros Gyfiawnder. |
|
15.15 – 15.25 |
Y flaenragalen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen
waith. |
|
15.25 – 15.35 |
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol Llywodraeth Cymru a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod
yn y dyfodol. |
|
17.05 - 18.05 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol. |
|
18.05 - 18.15 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Cwnsler
Cyffredinol, a chytunodd i ysgrifennu ato i ofyn am ragor o wybodaeth. |