Offerynnau statudol y mae angen i'r Senedd gydsynio â nhw (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)
O dan rai
amgylchiadau, bydd angen cydsyniad y Senedd ar rai offerynnau statudol a wneir
gan Weinidogion y DU. Er enghraifft, rhai offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf
Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
O dan Reol
Sefydlog 30A, mae’n rhaid i aelod o’r llywodraeth osod memorandwm (Memorandwm
Cydsyniad Offeryn Statudol) mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol o’r fath
y bydd Gweinidogion y DU yn ei osod gerbron Senedd y DU, a hynny dim mwy na
thri diwrnod fel rheol ar ôl iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. Ar ôl i
femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod, caiff unrhyw aelod gyflwyno
cynnig sy’n gofyn i’r Senedd gytuno i’r darpariaethau a amlygir ganddo.
Lle mae
memorandwm cydsyniad offeryn statudol yn ymwneud â chynigion i newid y gyfraith
yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, bydd yr offeryn statudol sy’n destun memorandwm
cydsyniad offeryn statudol gynnwys y term “(Ymadael â’r UE)” yn y teitl.
Mae unrhyw
ohebiaeth sy'n ymwneud â Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar gael o dan y
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol penodol a restrir isod.
Teitl
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol |
Dyddiad
Gosod |
24 Hydref 2023 |
|
21 Tachwedd
2022 |
|
SICM(6)1 - Gorchymyn Newid Hinsawdd
(Nwyon Ty Gwydr Wedi'u Targedu) 2022 |
21 Hydref 2022 |
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2022