Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd Darren Millar AC yn dirprwyo.

1.2        Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebodd Jenny Rathbone AC Darren Millar AC, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.

1.3        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(13.00 - 13.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

2.2 Cytunwyd ar y camau a ganlyn:

·         Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ymateb i’r Llywodraeth yn gofyn am adroddiad sefyllfa ar y broses benodi ar gyfer y Prif Swyddog Digidol ynghyd â diffiniadau clir o rolau’r Swyddogion Digidol amrywiol ac amserlen ar gyfer y penodiadau hyn.

·         Caffael Cyhoeddus: Cytunodd y Cadeirydd i ofyn i Lywodraeth Cymru pa ystyriaethau, os o gwbl, a roddwyd i’r effaith bosibl y gallai unrhyw dariffau yn y dyfodol ei chael ar gaffael.

·         Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Cytunodd y Cadeirydd i gynghori Llywodraeth Cymru y bydd y Pwyllgor yn dod yn ôl at y mater ynghylch defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru yn ystod gwaith craffu blynyddol ar gyfrifon yn hydref 2020.

·         Rheoli Gwastraff: Cytunodd y Pwyllgor i fwydo eu safbwyntiau i ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru.

·         Rheoli Meddyginiaethau: Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adroddiad cynnydd ar y mentrau i wella presgripsiynau amlroddadwy a lleihau gwastraff ac ar wella’r gwaith o storio meddyginiaethau, gan nodi nad yw’r canllawiau diwygiedig a gafodd eu haddo wedi cael eu cyhoeddi eto.

·         Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfathrebu, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gyda’u barn.

·         Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned: Gofynnodd y Pwyllgor i’r llythyr gan Lywodraeth Cymru gael ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Cyfathrebu, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

·         Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am esboniad pellach ar y wybodaeth sydd yn y llythyr.

 

 

2.1

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (22 Tachwedd 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (25 Tachwedd 2019)

Dogfennau ategol:

2.3

Caffael Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (4 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.4

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.5

Rheoli Gwastraff: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.6

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (9 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.7

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (10 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.8

Rheoli Gwastraff: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (10 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.9

Rheoli meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (10 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.10

Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (11 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.11

Gohebiaeth y Pwyllgor: Diwygio Etholiadol y Cynulliad (16 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.12

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (23 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

(13.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitamau 4, 5, 6 & 7

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.30 - 13.45)

4.

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru – Gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru (mis Hydref 2019)

PAC(5)-01-20 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad

Papur Briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor ddogfen friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar eu Hadroddiad a chytunodd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn bod y diweddariad ar Wasanaethau y Tu Allan i Oriau a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf 2020 hefyd yn cwmpasu’r camau a gymerwyd ar y 10 argymhelliad a gynhwysir yn Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

 

(13.45 - 14.00)

5.

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (13 Rhagfyr 2019)

PAC(5)-01-20 Papur 2 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r llythyr a hefyd y penawdau o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Maes Awyr Caerdydd 2018-19, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Rhagfyr 2019.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion, cyn eu sesiwn graffu arfaethedig yn ddiweddarach y tymor hwn.

 

(14.00 - 14.30)

6.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y llythyr drafft

PAC(5)-01-20 Papur 3 – Llythyr drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunwyd ar y llythyr drafft.

 

(14.30 - 15.00)

7.

Cyfarwyddyd Gweinidogol - Trefniadau Pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20

PAC(5)-01-20 Papur 4 – Gohebiaeth Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth i’r Pwyllgor am y Cyfarwyddyd Gweinidogol diweddar.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal sesiwn graffu gyda’r Ysgrifennydd Parhaol i drafod y weithdrefn.

7.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i ofyn am eu barn ar y Cyfarwyddyd Gweinidogol diweddar.

7.4 Cytunodd y Cadeirydd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Cyllid yn eu cynghori ynghylch penderfyniad y Pwyllgor a gofyn iddynt graffu ar waith y Gweinidogion perthnasol ar y goblygiadau cyllidebol fel rhan o’r sesiynau craffu cyllideb sydd ar ddod.