Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, sef Cymorth
Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau, ar 29 Tachwedd 2018.
Mae gwahanol rannau
o Lywodraeth Cymru yn darparu mathau gwahanol o gymorth ariannol a chymorth
arall ar gyfer busnesau at ystod o ddibenion. Mae'r tîm Sectorau a Busnes yng
Ngrŵp yr Economi,
Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru, yn gweinyddu llawer o gyllid y
prosiect y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu'n uniongyrchol i fusnesau
unigol er mwyn creu neu ddiogelu swyddi, a gafodd sylw yng ngwaith archwilio'r
Archwilydd Cyffredinol yn ystod yr astudiaeth hon.
Awgrymwyd yr adolygiad
hwn gan adroddiadau blaenorol yr Archwilydd Cyffredinol, yn ogystal â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r cyfryngau'n tynnu sylw at
enghreifftiau o brosiectau a gafodd gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ond na
wnaeth gyflawni'r manteision a fwriadwyd.
Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr
adroddiad ym mis Ionawr 2019 a chynhaliodd ymchwiliad yn nhymor yr haf 2019. Ysgrifennodd
Cadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru gyda’i gasgliadau ym mis Ionawr 2020. Y bwriad oedd i’r Pwyllgor ddychwelyd at y
mater hwn ym mis Mehefin 2020, ond yn wyneb yr argyfwng iechyd cyhoeddus bu’r
sesiwn ar 24 Mehefin 2020 yn canolbwyntio ar effaith economaidd Covid-19, ac
ymateb Llywodraeth Cymru. Craffodd y Pwyllgor, fodd bynnag, ar Lywodraeth Cymru
o ran y cymorth ariannol a roddwyd i gynorthwyo busnesau yng nghyfnod
cychwynnol y pandemig.
YouTube-Here https://spark.adobe.com/video/CLUVcDpMlalvk/embed
Sesiwn
Dystiolaeth |
Dyddiad,
Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
Sesiwn gwybodaeth gefndir Cerys Furlong
– Chwarae Teg |
|||
1. Banc Datblygu Cymru Giles Thorley
– Prif Weithredwr |
|||
2. Ffederasiwn Busnesau Bach Ben Cottam
– Pennaeth Materion Allanol |
|||
3. Llywodraeth Cymru Andrew
Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
|||
4.
Llywodraeth Cymru Andrew
Slade – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol |
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2018
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Llywodraeth Cymru - 15 Mehefin 2020
PDF 197 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 23 Ionawr 2020
PDF 233 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - 10 Ionawr 2020
PDF 165 KB
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 31 Hydref 2019
PDF 728 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - 4 Hydref 2019
PDF 143 KB
- Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru - 2 Medi 2019
PDF 750 KB
- Llythyr gan Fanc Datblygu Cymru - 31 Gorffennaf 2019 (Saesneg yn Unig)
PDF 130 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru - 8 Gorffennaf 2019
PDF 151 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - 11 Ionawr 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 262 KB
- Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau - Tachwedd 2018
PDF 5 MB