Maes Awyr Caerdydd

Maes Awyr Caerdydd

Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a phrynu Maes Awyr Caerdydd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (PDF 3MB) (27 Ionawr 2016).  Cyhoeddodd y Pwyllgor hwnnw yr adroddiad ar ei ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a phrynu Maes Awyr Caerdydd (PDF 458KB) ym mis Mawrth 2016.

Oherwydd prinder amser, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad. Yn ei adroddiad etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor blaenorol y dylai ei Bwyllgor olynol drafod ymateb Llywodraeth Cymru, pan fydd ar gael ac y dylai geisio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu’r argymhellion yn hydref 2016.

Bu’r Pwyllgor yn trafod ymateb  Llywodraeth Cymru yn ystod sesiwn dystiolaeth ym mis Tachwedd 2016. Parhaodd y Pwyllgor i fonitro cynnydd yn y Maes Awyr mewn sesiynau tystiolaeth ac hefyd mewn gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru rhwng 2017 a 2019.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth pellach gyda Maes Awyr Caerdydd yn nhymor yr haf 2019 a bu’r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2019. Yn dilyn y sesiwn yna, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru a chafodd yr ymateb manwl yn cael ei ystyried ym mis Tachwedd 2019.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth bellach gyda Maes Awyr Caerdydd yng ngwanwyn 2020 a'r bwriad oedd dychwelyd at y mater gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn 2020. Fodd bynnag, yn sgil effaith Covid-19 ar y diwydiant hedfan, gallai hyn gael ei gyfeirio at y Pwyllgor olynol yn y 6ed Senedd.

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth bellach gyda Maes Awyr Caerdydd ym mis Mawrth 2020, a Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020.

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Maes Awyr Caerdydd

Roger Lewis Deb Barber Huw Lewis

Dydd Llun 3 Mehefin 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Llywodraeth Cymru

Andrew Slade

Simon Jones

Dydd Llun 23 Medi 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Maes Awyr Caerdydd

Roger Lewis

Deb Bowen Rees

Huw Lewis

Terry Morgan

Dydd Llun 2 Mawrth

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4. Llywodraeth Cymru

Dydd Llun 16 Tachwedd 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau