Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr Adroddiad hwn ar 22 Hydref 2019.

 

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y prif faterion a meysydd cynnydd a ganfuwyd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru ar lefel genedlaethol. Mae gofal sylfaenol yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau, a ddarperir gan feddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion a gweithwyr proffesiynol o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.

 

Canfu’r Adroddiad, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a llawer o gynlluniau ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol dros y blynyddoedd, nid yw’r newid wedi digwydd mor gyflym na mor eang ag y bwriadwyd ac, er bod y GIG a Llywodraeth Cymru yn cymryd ystod o gamau i gryfhau gofal sylfaenol, mae angen i newidiadau ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy er mwyn mynd i’r afael â heriau hirsefydlog a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn addas at y diben.

 

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried yr Adroddiad ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020 ac yn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2019