Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick
Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd Darren Millar AC yn dirprwyo. 1.2
Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer
Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebodd Jenny Rathbone AC Darren
Millar AC, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor. 1.3
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i’r cyfarfod. |
|
(13.00 - 13.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. 2.2
Cytunwyd ar y camau a ganlyn: ·
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ymateb i’r Llywodraeth yn
gofyn am adroddiad sefyllfa ar y broses benodi ar gyfer y Prif Swyddog Digidol
ynghyd â diffiniadau clir o rolau’r Swyddogion Digidol amrywiol ac amserlen ar
gyfer y penodiadau hyn. ·
Caffael Cyhoeddus: Cytunodd y Cadeirydd i ofyn i Lywodraeth Cymru pa ystyriaethau, os o gwbl,
a roddwyd i’r effaith bosibl y gallai unrhyw dariffau yn y dyfodol ei chael ar
gaffael. ·
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Cytunodd y Cadeirydd i gynghori Llywodraeth Cymru y bydd y Pwyllgor yn dod
yn ôl at y mater ynghylch defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru yn
ystod gwaith craffu blynyddol ar gyfrifon yn hydref 2020. ·
Rheoli Gwastraff: Cytunodd y Pwyllgor i fwydo eu safbwyntiau i ymgynghoriad presennol
Llywodraeth Cymru. ·
Rheoli Meddyginiaethau: Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am
adroddiad cynnydd ar y mentrau i wella presgripsiynau amlroddadwy a lleihau
gwastraff ac ar wella’r gwaith o storio meddyginiaethau, gan nodi nad yw’r
canllawiau diwygiedig a gafodd eu haddo wedi cael eu cyhoeddi eto. ·
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru): Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu
at y Pwyllgor Cyfathrebu, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gyda’u barn. ·
Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol
mewn Cynghorau Cymuned: Gofynnodd y Pwyllgor i’r llythyr
gan Lywodraeth Cymru gael ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Cyfathrebu,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. ·
Perthynas Llywodraeth Cymru â
Pinewood: Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn
gofyn am esboniad pellach ar y wybodaeth sydd yn y llythyr. |
|
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (22 Tachwedd 2019) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (25 Tachwedd 2019) Dogfennau ategol: |
||
Caffael Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (4 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli Gwastraff: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (9 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (10 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli Gwastraff: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (10 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Rheoli meddyginiaethau: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (10 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (11 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth y Pwyllgor: Diwygio Etholiadol y Cynulliad (16 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (23 Rhagfyr 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitamau 4, 5, 6
& 7 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(13.30 - 13.45) |
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru – Gwasanaethau
gofal sylfaenol yng Nghymru (mis Hydref 2019) PAC(5)-01-20
Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad Papur Briffio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Derbyniodd
y Pwyllgor ddogfen friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar eu Hadroddiad a
chytunodd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn bod y
diweddariad ar Wasanaethau y Tu Allan i Oriau a drefnwyd ar gyfer mis
Gorffennaf 2020 hefyd yn cwmpasu’r camau a gymerwyd ar y 10 argymhelliad a
gynhwysir yn Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol. |
|
(13.45 - 14.00) |
Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (13 Rhagfyr 2019) PAC(5)-01-20 Papur
2 – Llythyr oddi wrth Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Trafododd yr Aelodau'r llythyr a hefyd y penawdau o Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon Maes Awyr Caerdydd 2018-19, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Rhagfyr 2019. 5.2
Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am
eglurhad pellach ar nifer o faterion, cyn eu sesiwn graffu arfaethedig yn
ddiweddarach y tymor hwn. |
|
(14.00 - 14.30) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y llythyr drafft PAC(5)-01-20
Papur 3 – Llythyr drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunwyd ar y llythyr drafft. |
|
(14.30 - 15.00) |
Cyfarwyddyd Gweinidogol - Trefniadau Pensiwn y GIG ar gyfer 2019/20 PAC(5)-01-20 Papur
4 – Gohebiaeth Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1
Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth i’r Pwyllgor am y Cyfarwyddyd
Gweinidogol diweddar. 7.2
Cytunodd yr Aelodau i gynnal sesiwn graffu gyda’r Ysgrifennydd Parhaol i drafod
y weithdrefn. 7.3
Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i ofyn am eu barn ar y
Cyfarwyddyd Gweinidogol diweddar. 7.4
Cytunodd y Cadeirydd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Cyllid yn eu cynghori ynghylch
penderfyniad y Pwyllgor a gofyn iddynt graffu ar waith y Gweinidogion
perthnasol ar y goblygiadau cyllidebol fel rhan o’r sesiynau craffu cyllideb
sydd ar ddod. |