Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag eitem 2.

 

09:30-10:30

2.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru

James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Trawsnewid a Datganoli Cyfiawnder, Llywodraeth Cymru

 

 

CLA(5)-29-20 – Papur briffio

CLA(5)-29-20 – Papur 1 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 28 Awst 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 2 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 23 Gorffennaf 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 3 – Llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog (tan 9.55am) a'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i ymchwiliad ynghylch Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 

10:30-10:40

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)623 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 4 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 5 – Rheoliadau

CLA(5)-29-20 – Papur 6 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-29-20 – Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 28 Medi 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 8 – Datganiad ysgrifenedig, 28 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.2

SL(5)628 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 9 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 10 – Rheoliadau

CLA(5)-29-20 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-29-20 – Papur 12 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 2 Hydref 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 13 – Datganiad ysgrifenedig, 1 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

3.3

SL(5)625 - Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 14 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 15 – Rheoliadau

CLA(5)-29-20 – Papur 16 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-29-20 – Papur 17 – Datganiad ysgrifenedig, 29 Medi 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.4

SL(5)626 - Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 18 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 19 – Rheoliadau

CLA(5)-29-20 – Papur 20 – Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

3.5

SL(5)627 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 21 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 22 – Rheoliadau

CLA(5)-29-20 – Papur 23 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-29-20 – Papur 24 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 30 Medi 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 25 – Datganiad, 29 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i drafod ymateb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

3.6

SL(5)629 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 26 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 27 – Rheoliadau

CLA(5)-29-20 – Papur 28 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-29-20 – Papur 29 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 2 Hydref 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 30 – Datganiad, 2 Hydref 2020

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

10:40-10:45

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

4.1

SL(5)619 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 31 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 32 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am eglurhad pellach mewn perthynas â'r amserlenni ar gyfer adolygu cyfyngiadau lleol.

 

4.2

SL(5)621 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 33 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 34 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

10:45-10:50

5.

Is-ddeddfwriaeth sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

5.1

C(5)042 - Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 35 – Adroddiad

CLA(5)-29-20 – Papur 36 – Gorchymyn

CLA(5)-29-20 – Papur 37 – Llythyr gan Brif Weinidog Cymru, 28 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Gorchymyn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

10:50-10:55

6.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(5)167 - Rheoliadau yr Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 38 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-29-20 – Papur 39 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

6.2

WS-30C(5)168 - Rheoliadau Maeth (Diwygio etc) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 40 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-29-20 – Papur 41 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

10:55-11:00

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Gwaith dilynol i sesiwn graffu’r Pwyllgor ar 21 Medi 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 42 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 5 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

 

7.2

Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU

CLA(5)-29-20 – Papur 43 – Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 3 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

 

11:00

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

11:00-11:10

9.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth

CLA(5)-29-20 – Papur 44 – Nodyn cryno ar ymarfer ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog.

 

11:10-11:20

10.

Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-29-20 – Papur 45 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i’w drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

 

11:20-11:30

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig: Trafod gohebiaeth

CLA(5)-29-20 – Papur 46 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, 6 Hydref 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 47 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am eglurhad pellach cyn drafftio ei adroddiad.

 

11:30-11:40

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2): Trafod y materion allweddol

CLA(5)-29-20 – Papur 48 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-29-20 – Papur 49 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2). Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

11:40-11:50

13.

Rheoliadau Covid-19: Trafod gohebiaeth

CLA(5)-29-20 – Papur 50 – Llythyr gan y Llywydd, 8 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â chraffu ar reoliadau Covid-19 a chytunodd i drafod ei ymateb yn y cyfarfod nesaf.