Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Cyflwynwyd y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 8 Medi 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Medi 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 5 Tachwedd 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/09/2020

Dogfennau