Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-Drin Domestig

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-Drin Domestig

Cyflwynwyd Bil Cam-Drin Domestig (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 3 Mawrth 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (88KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 3 Awst 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 25 Chwefror (diwygiedig ar 29 Ionawr 2021).

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Ar 20 Ionawr 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 222KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 25 Chwefror 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)

 

Ar 15 Mawrth 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2020

Dogfennau