Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

09:30-10:30

2.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Rhian Davies-Rees, Pennaeth Tribiwnlysoedd Cymru

 

CLA(5)-22-20 – Papur briffio

CLA(5)-22-20 - Papur 1 - Llythyr gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 26 Mehefin 2020

CLA(5)-22-20 - Papur 2 - Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 29 Mehefin 2020

CLA(5)-22-20 - Papur 3 - Adroddiad Blynyddol Cyntaf Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 9 Ebrill 2019

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Bu'r Pwyllgor hefyd yn holi Syr Wyn ar ei ddau adroddiad blynyddol cyntaf yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

 

10:30-10:35

3.

Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-22-20 – Papur 4 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

3.1

SL(5)568 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

10:35-10:40

4.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(5)572 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-22-20 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-22-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-22-20 – Papur 8 – Datganiad ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

4.2

SL(5)570 – Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 9 – Adroddiad

CLA(5)-22-20 – Papur 10 – Rheoliadau

CLA(5)-22-20 – Papur 11 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-22-20 – Papur 12 - Llythyr gan y Gweinidog Addysg at y Llywydd, 25 Mehefin 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac yn rhoi ystyriaeth bellach i’r materion a godir.

 

4.3

SL(5)573 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 13 – Adroddiad

CLA(5)-22-20 – Papur 14 – Rheoliadau

CLA(5)-22-20 – Papur 15 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-22-20 – Papur 16 – Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd, 3 Gorffennaf 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 17 - Datganiad ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

 

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE

5.1

SL(5)569 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 18 – Adroddiad

CLA(5)-22-20 – Papur 19 – Rheoliadau

CLA(5)-22-20 – Papur 20 – Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

6.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

6.1

WS-30C(5)162 - Rheoliad (UE) Rhif 2018/1724 Rheoliadau Rheoliad y Porth Digidol Unigol (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 21 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-22-20 – Papur 22 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

6.2

WS-30C(5)163 - Rheoliadau Gwasanaethau a Chymwysterau Proffesiynol (Darpariaethau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-22-20 – Papur 23 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-22-20 – Papur 24 – Sylwebaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

7.

Papurau i’w nodi:

7.1

Llythyr gan Bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru - Craffu ar reoliadau Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

CLA(5)-22-20 - Papur 25 - Llythyr gan Bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, 3 Gorffennaf 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Bennaeth Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi ymateb i'r llythyr i gydnabod y pwyntiau a godwyd.

 

7.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - gohebiaeth gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf

CLA(5)-22-20 – Papur 26 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 3 Gorffennaf 2020.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'i ymchwiliad i Wneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru.

 

7.3

Llythyr gan yr Aelod Seneddol Alex Chalk, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder - data ar fynediad at gyfiawnder

CLA(5)-22-20 – Paper 27 – Llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, 7 Gorffennaf 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder mewn ymateb i'w gais am wybodaeth ar ddata ar fynediad at gyfiawnder.

 

11:00

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

11.00-11.10

9.

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru - trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

 

11.10-11.20

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-22-20 – Papur 28 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amgylchedd, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 17 Gorffennaf 2020.

 

11.20-11.30

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-22-20 – Papur 29 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach, a chytunodd arno yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Pwyllgor fod y dyddiad cau ar gyfer adrodd wedi'i ymestyn ac y byddai ei adroddiad yn cael ei osod maes o law.

 

11.30-11.40

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Amaethyddiaeth - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-22-20 – Papur 30 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Amaethyddiaeth. Nododd y Pwyllgor fod y dyddiad cau ar gyfer adrodd wedi'i ymestyn ac y byddai ei adroddiad yn cael ei osod maes o law.

 

11.40-12.00

13.

Y newid yng nghyfansoddiad Cymru - trafod y materion allweddol

CLA(5)-22-20 – Papur 31 – Papur materion allweddol

CLA(5)-22-20 - Papur 32 – Crynodeb o'r dystiolaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd hyd yma mewn perthynas â'i ymchwiliad i’r Newid yng Nghyfansoddiad Cymru a'i gynlluniau ar gyfer adrodd ar y materion a godwyd.

 

12.00-12.10

14.

Diweddariad Brexit - fframweithiau cyffredin

CLA(5)-22-20 – Papur 33 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil mewn perthynas â fframweithiau cyffredin.